Menter. Un o nodweddion ffydd yw menter.
Mae ffydd o’i hanfod yn fentrus; os ffydd yw’r gannwyll, menter yw’r fflam; os ffydd yw’r môr, menter yw’r halen.
Yn ôl un hen chwedl Iddewig, holltwyd dyfroedd y Môr Coch, nid pan estynnodd Moses ei law, ond pan gamodd y cyntaf o’r bobl i’r dŵr. ‘Roedd Duw yn gwybod fod ganddo’r gallu i hollti’r dyfroedd, ond i hollti’r dyfroedd, ‘roedd yn rhaid i Dduw wybod fod y bobl yn gwybod fod ganddo’r gallu i hollti’r dyfroedd! Holltwyd y dŵr o ganlyniad i fenter ffydd yr hwnnw, neu’r honno a gamodd gyntaf i’r dŵr gan wybod fod pob peth yn bosibl i Dduw, gyda Duw.
O! Dduw, ein Tad, gwared ni, rhag i anobaith rwystro’n hymdrech; rhag i ddigalondid ddiffodd ein gobaith. Amen.
(OLlE)