CAPERNAUM

Pan aeth hi’n hwyr, aeth ei ddisgyblion i lawr at y môr, ac i mewn i gwch, a dechrau croesi’r môr i Gapernaum.

(Ioan 6: 16,17)

‘Capernaum’ ...

‘Tiberias’ ...

‘Genesaret’ ...

Mae’r tair cyfres yn dirwyn i ben y mis hwn. Er bod natur y cyfarfodydd yn wahanol, yr un bwriad oedd iddynt: ehangu ein deall o weddi; dyfnhau ein gwerthfawrogiad o hyd a lled, uchder a dyfnder y fendith a gawn wrth weddïo a chyd-weddïo.

"’Doedd gyda ni ddim pregethwr ddoe, a bu raid cael cwrdd gweddi." Dyna a glywn yn aml y dyddiau hyn, ac ymhlyg yn y geiriau mai awgrym tawel fod cwrdd gweddi yn eilradd i gwrdd pregethu. Mae’r cwrdd gweddi lawn cyn bwysiced â’r cwrdd pregethu. Ofer y naill heb y llall. Mae gwneud yn fach o’r cwrdd gweddi yn arwydd fod ein syniad o weddi yn rhy gyfyng.

Echel ein myfyrdod heno oedd darn o waith George Herbert (1593-1633). Ganed ef yng Nghastell Trefaldwyn. Mae’r offeiriad a bardd tra disglair hwn yn cynnwys gynifer â 27 o ddisgrifiadau godidog, beiddgar o weddi yn yr un gerdd hon. Dyma rai ohonynt: gwledd, pererindod, ymosodiad, alaw, clychau, gardd, gwaed, deall a chael ein deall. Dylai Herbert cael canu ei hun, felly dyma ‘Prayer 1’:

Prayer the church's banquet, angel's age,

God's breath in man returning to his birth,

The soul in paraphrase, heart in pilgrimage,

The Christian plummet sounding heav'n and earth

Engine against th' Almighty, sinner's tow'r,

Reversed thunder, Christ-side-piercing spear,

The six-days world transposing in an hour,

A kind of tune, which all things hear and fear;

Softness, and peace, and joy, and love, and bliss,

Exalted manna, gladness of the best,

Heaven in ordinary, man well drest,

The milky way, the bird of Paradise,

Church-bells beyond the stars heard, the soul's blood,

The land of spices; something understood.

Cydiasom heno yn y ddelwedd hon: Anadl Duw mewn person yn dychwelyd at ei tharddiad - God's breath in man returning to his birth Cyfeiriad sydd yma i’r adnod ryfedd a rhyfeddol hon yn Genesis: Yna lluniodd yr ARGLWYDD Dduw ddyn o lwch y tir, ac anadlodd yn ei ffroenau anadl einioes; a death y dyn yn greadur byw (Genesis 2:7 BCN). Crëwyd ni o lwch y tir - dyna beth ydym: llwch a baw ... llwch wyt ti, ac i’r llwch dychweli (Genesis 3:19b BCN). Ond, i’r llwch cyffredin hwn, anadlodd Duw anadl einioes. Yr anadl hwnnw a drodd dyn yn greadur byw. Anadl Duw yw bywyd. Wrth weddïo dychwel yr anadl ddwyfol sydd ynom at ffresni, egni a gwefr ei ddechreuad, ei darddle: Duw. Dyma beth yw gweddi a gweddïo: anadl Duw ynom yn dychwelyd at Dduw, ac yntau o’r newydd yn ein llenwi o’r newydd ag anadl einioes.

Diolch am ‘Capernaum’; buddiol y cyfle hwn i ymdawelu’n ar derfyn dydd: defosiwn, gweddi, llonyddwch a myfyrdod.