Braf oedd cael treulio egwyl fach yn Eglwys Gadeiriol Llandaf y bore hwn, a chael eistedd yng nghysgod cerflun Jacob Epstein (1880-1959): Christ in Majesty (1954-55). Y Crist alwminiwm hwn, yn edrych i lawr arnom o’i fwa concrit bum troedfedd ar hugain. Er mor ardderchog Crist aruchel Epstein, gwir Majesty yw Crist yn ei dynerwch dynol: Crist gyda ni yng nghanol ein bywyd fel y mae, yn ei fateroliaeth, yn ei ddioddefaint, ac yn ei bechod.
(OLlE)