'HOGA DY FWYELL!'

Dydd Owain Glyndŵr

Yn ddiorffwys eich ymroddiad, yn frwd eich ysbryd, gwasanaethwch yr Arglwydd (Rhufeiniaid 12:11).

Un o swyddogion pennaf Owain Glyndŵr oedd Cadwgan. Pan fyddai angen rhagor filwyr, danfonid Cadwgan i’r ffeiriau a’r marchnadoedd i hel milwyr ato. ‘Roedd ganddo ddull unigryw o wneud hynny. Yn lle siarad gyda phobl ac areithio’n wladgarol, safodd yn dawel yn eu plith yn hogi i fwyell fawr. Heb yr un gair, deallai pawb ei neges, a phan fyddai angen dynion ar Owain, ei orchymyn oedd: 'Cadwgan! Hoga dy fwyell!'

Prin fod gwell anogaeth i bob perchen ffydd: ‘Hoga dy fwyell!

‘Gweddïwn am grefydd â min arni...Mor dda fuasai tipyn o hogi...’

J. Puleston Jones (1862-1925), (Meddyliau Puleston; Caernarfon, 1934)

O! Dduw, tro ein ffydd yn ffordd o fyw, fel y gwelir ein credo mewn croeso, a’n cyffes mewn cariad. Amen.

(OLlE)