Daeth nifer dda ynghyd heddiw i fwynhau cinio canol dydd am y tro cyntaf yn ein Rhaglen Waith newydd. Roedd amryw wedi bod oddi cartre' a rhai yn dychwelyd ar ôl cyfnod o salwch a phawb yn falch o'r cyfle i fwynhau sgwrs dros bryd o fwyd.
Am fod rhai o'r cwmni wedi ymweld â gwledydd tramor trodd y sgwrs yn naturiol at gyflwr enbydus y miloedd o ffoaduriaid sy'n chwilio am loches yn Ewrop y dyddiau hyn. Roedd peth pegynnu barn, a'r cwestiwn a gafwyd oedd "Fyddech chi'n barod i groesawu un teulu i'ch cartre’ chi am sbel fach?"
 Jeremy Corbyn ar ei draed yn Nhŷ’r Cyffredin ar yr union adeg bu cryn ddyfalu sut dderbyniad a gâi a beth fyddai ei ymateb yn sesiwn gwestiynau'r Prif Weinidog. Cytunai pawb na fyddai 'shiglad " i'r sefyllfa bresennol yn beth drwg!
Ac fel yna y treuliwyd awr ddifyr wrth y bwrdd a phawb yn edrych ymlaen at gyfarfod eto ymhen y mis.
(Rhiannon Evans)