Câr di yr ARGLWYDD dy Dduw â’th holl galon, ac â’th holl enaid, ac â’th holl nerth.
(Deuteronomium 6: 5)
Dyma adnod ein testun mewn gwedd newydd: Câr di yr ARGLWYDD dy Dduw â’th holl FEDDWL, ac â’th holl DEIMLAD, ac â’th holl EWYLLYS.
MEDDWL, TEIMLAD, EWYLLYS, - dyma’r stwff sydd yn gwneud person yn berson, ac mae Duw yn hawlio’r cwbl.
Dyna gyfandir mawr ydyw MEDDWL person. Y mae Duw yn hawlio’r cwbl o’th feddwl. A’th feddwl DI a hawlia Duw - nid meddwl dy dad na’th dadau.
Peth digon peryglus yw TEIMLAD, - stwff anodd iawn i’w drin. Oni chaiff person ddisgyblaeth arno fe dry’n feddalwch sentimental. Pan hawlia Duw dy deimlad fe ddaw’n egni ac yn wasanaeth dros eraill.
'A rhaid i mi wrth dy EWYLLYS', medd Duw: ein gweithredoedd ni; ein bywyd yn ei ddyletswyddau a’i orchwylion. Rhwyddach rhoi meddwl a theimlad i Dduw na rhoi’n hewyllys.
O Ddeuteronomium y codwyd y testun, a dyma’r adnod y gafaelodd Crist ynddi i osod ei hawl ef arnom. (Mathew 22:34-39)
Gofyn mawr, ond Iesu yw’r gofynnwr, ac fe ddyry ef i ni nerth i gyflawni ei ofynion arnom.