Cliciwch/cyffyrddwch â’r ddelwedd i amlygu’r nesaf.
Delweddau: Spike's Tactical: Apoka, Florida UDA.
Pa enw buasech chi’n dewis i wn?
Oes angen enw ar wn? Mae’n debyg fod angen hunaniaeth ar ambell wn! Gan hepgor y cymysgedd arferol o lythyren a rhif: AK47, M16A4 neu L85A2, mae Spike’s Tactical, Florida UDA wedi penderfynu ychwanegu enw: AR-15 Crusader rifle. Wedi ysgythru’n gywrain ar ochr y gwn mae croes - croes Marchogion y Deml i fod yn fanwl gywir, ac fe gofiwch gysylltiad yr urdd honno a’r croesgadau. Pe na bai hynny’n ddigon uwchben clicied y gwn geir adnod o’r Salmau:
Bendigedig yw yr ARGLWYDD, fy nghraig;
ef sy’n dysgu i’m dwylo ymladd, ac i’m bysedd ryfela.
(Salm 144:1)
Hyn oll, er mwyn sicrhau fod y gwn yn "ISIS-proof". Meddai Ben Thomas, lladmerydd Spike’s Tactical: "We wanted to make sure we built a weapon that would never be able to be used by Muslim terrorists to kill innocent people or advance their radical agenda..."
Buasai’r Mwslim treisgar, yn ôl rhesymeg Spike’s Tactical yn methu goddef dal, heb sôn am ddefnyddio’r AR-15 Crusader rifle gan fod adnod a chroes arni. Nid yw’r groes a’r adnod yn peri anhawster tebyg i’r Cristion treisgar gyda llaw, gan fod - mae’n debyg - gwerthiant sylweddol iawn wedi bod ar y AR-15 Crusader rifle ers ei lansio ychydig wythnosau yn ôl.
O’r tameidiau o ymateb dwi wedi bras ddarllen, daeth y sylw fwyaf treiddgar gan Hemant Mehta, golygydd Friendly Atheist: awgrymodd mai callach buasai ysgythru’r geiriau Na ladd (Exodus 20:13) uwchben y glicied. Wrth ddarllen y sylw syml hwnnw, daeth geiriau Iesu i'm cof: Yr hwn nid yw yn ein herbyn, drosom ni y mae (Marc 9:40).
(OLlE)