Heddiw, yn 1709 ganed Dr Samuel Johnson (marw 1784); Dr Johnson: bardd, ysgrifwr, beirniad, bywgraffydd, golygydd a geiriadurwr. Dyma ddwy ddyfyniad ganddo i’ch sylw heddiw:
I look upon every day to be lost in which I do not make a new aquaintance.
A man, Sir, should keep his friendship in constant repair.
O! Dduw, gwna ni’n gyfeillion ffyddlon, unplyg a chywir fel y sancteiddier ein cyfeillgarwch i’th ddibenion di. Amen.
Dag Hammarskjöld (1905-1961)
Heddiw, yn 1961, bu farw Dag Hammarskjöld (ganed 1905). Ysgrifennydd y Cenhedloedd Unedig ydoedd o 1953, hyd ei farw mewn damwain awyren. Hwn, ymhlith cant a mil o bethau eraill, fu’n gyfrifol am neilltuo un ystafell yn adeilad anferth y Cenhedloedd Unedig yn Efrog Newydd yn Meditation Room, y lleiaf a’r mwyaf distadl o’r holl ystafelloedd. Allor syml, ddirodres yw’r cyfan sydd ynddi. Wrth ei hagor ym 1952, dyma rai o sylwadau Hammarskjöld: In the seeming void of the room there is something we want to say. We want to bring back in this room the stillness we have lost in our streets and our conference rooms, and to bring back it back in a setting in which no noise could impinge upon our imagination...we want to bring back the idea of worship, devotion to something which is greater and higher than ourselves.
Diolch am bob cyfle a gawn dros benwythnos i gymdeithasu’n frwd, ond diolch mwy am yr oedfa dawel syml. Peidiwn esgeuluso honno. Honno, a rydd i ni gyfle i ymdawelu, ac o ymdawelu, ymlonyddu.
Diolch i ti, O! Dduw, am yr hyfryd hedd sydd yn dy bresenoldeb. Amen.
(OLlE)