Cymerodd hwy gydag ef ac encilio o'r neilltu i dref a elwir Bethsaida (Luc 9:10b).
Y mae i’n perthynas â Duw ei wedd gyhoeddus a’i wedd bersonol, a rhaid wrth y naill a’r llall. Ni ellid cynnal y bywyd defosiynol heb addoliad y gynulleidfa, a buan y mae addoliad yn colli ei flas heb elfen o ddefosiwn personol. Rhaid wrth allor yn y galon, yn ogystal â’r allor yn y deml. Bydd ‘Bethsaida’ yn gyfle ac yn gyfrwng i ehangu ein bywyd defosiynol.
Cedwir at yr un patrwm o gyfarfod i gyfarfod. Salm; cyflwyniad gan y Gweinidog ar elfen o’r bywyd defosiynol, trafodaeth ac yna awgrym neu ddwy ynglŷn ag arfer dda, neu ddiddorol, o weddïo’n bersonol; a gorffen gyda chyfnod o weddi.
Wedi cyd-ddarllen Salm 103, cawsom ein hatgoffa mae ein dyletswydd gyntaf wrth weddïo yw Moli Duw. Yr unig beth a allwn ni ei gynnig i Dduw nad yw eisoes yn feddiannol arno ydyw ein mawl, wedi’r cyfan: Eiddo’r ARGLWYDD yw’r ddaear a’i lawnder, y byd a’r rhai sy’n byw ynddo...(Salm 24:1) Rhoddwn ein hunain i’r Hwn a foliannwn.
Ein tuedd yn aml wrth weddïo yw canolbwyntio ein sylw arnom ni ein hunain, ac er mor naturiol hynny, nid felly y dylai fod. Edrych i gyfeiriad Duw a chyfoeth ei fendith, dyfnder ei gynhaliaeth, ac ehangder ei gariad yw’r cam cyntaf mewn gweddi, a buan y sylweddolwn wir gyflwr, angen a photensial yr hunan fel canlyniad i hynny.
Yn dilyn trafodaeth fuddiol, fendithiol ac ar brydiau heriol, aethom ymlaen i ystyried y tirbwa (Gweler y ddelwedd uchod) fel canllaw i weddi. Gellid gosod, awgrymodd y Gweinidog Duw yn y canol: Câr yr ARGLWYDD dy Dduw â’th holl galon, ac â’th holl enaid ac â’th holl feddwl. Dyma’r gorchymyn mwyaf a’r cyntaf (Mathew 22:37,38). Ac yna, yn dawel ac ystyriol nodi tri thestun diolch, neu ofid: Yr wyt yn cadw mewn heddwch perffaith y sawl sydd â’i feddylfryd arnat, am ei fod yn ymddiried ynot (Eseia 26:3).
A chan mai di-fudd unrhyw drafodaeth ar weddi oni bydd y drafodaeth honno’n esgor ar arfer gweddi, cawsom gyfnod o weddïo gyda’n gilydd. Defnyddiwyd croes Caergaint (isod) fel cyfrwng i’n gweddïau: mae bob braich yn estyn allan, ac ar yr un pryd yn estyn am ei gilydd, ac felly’n ddarlun o’n gweddïo, ac yn gyfrwng i’n gweddïau. Bu’r groes hynafol hon (darganfuwyd hi yn 1867, ond mae’r groes ei hun yn dyddio oddeutu 850) yn gymorth i ni ymdawelu, i sefydlu ein meddwl ar Dduw a phrofi ei bresenoldeb yn ein hamgylchynu.
Braf a buddiol Bethsaida; er mai bychan y cwmni, bendith fawr a gafwyd.