Ar ôl hyn, amlygodd Iesu ei hun unwaith eto i’w ddisgyblion, ar lan Môr Tiberias...‘Dewch,’ meddai Iesu wrthynt, cymerwch frecwast.’...a chymerodd y bara a’i roi iddynt, a’r pysgod yr un modd. (Ioan 21:1,12,13)
Tiberias. 8 y bore, â chwe chadair mewn cylch; cwmni bychan a ddaeth ynghyd i ymdawelu a myfyrio ar ddechrau’r dydd.
Ers dechrau mis Medi, buom yn dawel ystyried gweddïau’r Beibl. Yn y ‘Tiberias’ cyntaf (14/9) gweddi Abraham (Genesis 18:23-33) oedd testun ein sylw; gweddi Moses (Exodus 32:11-14; 30-35) yn y ‘Capernaum’ cyntaf (21/9). Echel ein myfyrdod heddiw, oedd Gweddi Mam - gweddi Hanna (1 Samuel 1:9-18, 24-28).
Rhyfedd fod cynifer o wahanol fathau o weddi! Efallai, fod cynifer o wahanol fathau o weddi ag sydd o wahanol fathau o weddiwyr! Ceir gweddi heb eiriau, a gweddi sydd yn eiriau i gyd; ebychiad o weddi; gweddi sy’n gwestiwn; gwên o weddi. Cwyn a phrotest, dymuniad a dyhead: pob un yn weddi. Addewid - ymrwymiad - yw gweddi Hanna.
'Roedd Hanna heb blant, o’r herwydd bu’n destun dirmyg ac yn gyff gwawd. Gofynnai i Dduw, mewn dagrau chwerw, am gael rhyddhad o’r hyn y tybiai hi - cynnyrch ei chyfnod, fel pawb ohonom - i fod yn warth. Dymuniad Hanna oedd cael mab. Â bod hyn yn digwydd, gwnâi addewid y buasai'n rhoi’r mab hwnnw ar fenthyg yn barhaol i Dduw:...yna rhoddaf ef i’r ARGLWYDD am ei oes... (1 Samuel 1: 28). Cadwodd Hanna ei haddewid, a chyflwynodd y bachgen i wasanaeth Duw.
Mae Hanna yn gosod ei mab ar allor gwasanaeth i Dduw. Gellid awgrymu mai'r rhodd fwyaf gwerthfawr y gall rhieni ei chyflwyno i Dduw yw’r plentyn neu blant a ymddiriedwyd iddynt. Pa rodd allai fod yn well ac yn fwy costus ar lawer ystyr? Pwy ŵyr pa ddefnydd y gall Duw ei wneud o'r bywyd hwn sydd wedi ei gyflwyno iddo? Fe all canlyniadau fod y tu hwnt i ddychymyg.
Gellid awgrymu hynny, ond oni ddylaswn betruso braidd am y syniad o osod arall neu eraill ar allor gwasanaeth i Dduw? Yn Nuw y mae bywyd pawb yn cyrraedd ei wir ddiben a'i bwrpas, ond rhaid i bawb ddod at Dduw o’i wirfodd. Gwnaeth Duw bopeth er ein hiachawdwriaeth ond ein gorfodi. Awgrymodd y Gweinidog fod gweddi Hanna - gweddi o ymrwymiad - yn ein hannog i ymrwymo i ogwyddo meddwl ein plant; plant yr eglwys a’i phobl ifanc tuag at Dduw. Amhosib yw gosod eraill ar allor wasanaeth i Dduw, ond gellid dangos iddynt mai calon ein ffydd yw’r allor - allor gwasanaeth i Dduw. O weld ein hymgysegriad, ymgysegra eraill. Mae Eifion Wyn (1867-1926) yn llwyddo i fynegi’r gwirionedd hwn yn gymen:
Dod i mi galon well bob dydd
a’th ras yn fodd i fyw
fel bo i eraill drwof fi
adnabod cariad Duw.
(CFf.: 681)
Gwerir egni mewn prysurdeb mawr a mynd, mynd di-baid: nid oes amser i feddwl, adfeddwl a myfyrio. Buddiol Tiberias, hanner awr o hamdden ysbrydol; cyfle i ymollwng i dawelwch myfyrdod a gweddi.
 ninnau'r bore hwn, wedi myfyrio uwchben Gweddi Mam, edrychwn ymlaen at gyfle i drafod Gweddi Plentyn (Genesis 21:14-21) yn ‘Capernaum’ nos Lun 19/10.