Oni all gariad at famwlad, neu gariad at grefydd fod yn beth eithriadol beryglus oni byddo’n ddarostyngedig i gariad rhagorach - cariad at Dduw?
Talasom fel gwledydd, ac ‘rydym yn talu o hyd, pris arswydus am anwybyddu cenadwri olaf Edith Cavell, â hithau wyneb yn wyneb ag angau: Patriotism is not enough. Os caf aralleirio geiriau Cavell - ni chredaf fy mod yn gwneud cam â hwy, nac â hithau chwaith - Religion is not enough.