BETHSAIDA

Cymerodd hwy gydag ef ac encilio o'r neilltu i dref a elwir Bethsaida (Luc 9:10b).

‘The Lute Player’ (1612) gan Orazio Gentileschi (1563 – 1639)

‘The Lute Player’ (1612) gan Orazio Gentileschi (1563 – 1639)

Gyda’r naill gyfarfod yn dilyn y llall, braf yw gweld amrywiaeth o bobl yn bachu ar y cyfle hwn i drafod, a dyfnhau eu bywyd defosiynol.

 ninnau wedi cyd-ddarllen Salm 46, cawsom ein hatgoffa o’r hyn a drafodwyd gennym ym mis Medi: Anhepgorion gweddi; Mawl i Dduw, a Gofyn ac Eiriolaeth. Y mis hwn, byddwn yn ystyried Beth yw Gweddi? Lle, a sut mae dechrau trafod cwestiwn mor anferthol o fawr?! Awgrymodd y Gweinidog mae’r unig fan cychwyn synhwyrol yw esiampl Iesu. Gyda’r Gweddïwr y dylem ddechrau, ac wedyn ystyried yn ofalus yr hyn a ddywedodd y Gweddïwr am Weddi. Dywedir iddo weddïo’n rheolaidd yn ystod ei weinidogaeth. Ceir, gan Luc yn fwyaf arbennig, bwyslais cyson ar hyn:

...byddai ef yn encilio i’r mannau unig ac yn gweddïo. (5:16)

Un o’r dyddiau hynny aeth allan i’r mynydd i weddïo, a bu ar hyd y nos yn gweddïo ar Dduw. (6:12)

Pan oedd Iesu yn gweddïo o’r neilltu yng nghwmni’r disgyblion...(9:18)

...wyth diwrnod wedi iddo ddweud hyn, cymerodd Pedr ac Ioan ac Iago gydag ef a mynd i’r mynydd i weddïo. (9: 28)

Yr oedd ef yn gweddïo mewn rhyw fan, ac wedi iddo orffen, dywedodd un o’i ddisgyblion wrtho, ‘Arglwydd, dysg i ni weddïo...(11:1)

Yna ymneilltuodd Iesu oddi wrthynt tuag ergyd carreg, a chan benlinio dechreuodd weddïo...(22:41).

Gweddïai Iesu yn rheolaidd. Nid arferiad ond anghenraid oedd gweddi i Iesu; a dyna esiampl y Gweddïwr Mawr. Trodd Iesu lwybr gweddi yn briffordd bywyd, a phan soniwn am ddilyn Iesu Grist, da fyddai inni gofio’r angen i’w ddilyn ar lwybr gweddi yn ogystal â phan Aeth ef o amgylch gan wneud daioni...(Actau 10:38). Yr hyn a roddai nerth iddo fynd o amgylch gan wneud daioni oedd ei weddïau yn y dirgel.

Yn sgil sylwadau’r Gweinidog, cawsom gyfle i drafod. A yw’n ofynnol i ymneilltuo i weddïo? A yw’n bosibl i ni weddïo’n hollol fel y gwnâi Iesu? Soniwyd am fendithion clywed Gweddi'r Arglwydd yn cael ei hoffrymu mewn sawl iaith yr un pryd. A yw'n bosibl i'r unigolyn weddïo mewn cynulleidfa? Beth yw elfennau pwysicaf y weddi gyhoeddus?

Yn unol â threfn arferol y cyfarfodydd hyn, aethom yn ein blaenau i rannu arfer dda, neu ddiddorol, o weddïo’n bersonol. Soniodd y Gweinidog am bwysigrwydd ymdawelu. Ond mae hyn y hen beth gennym! Pa werth sydd i drafod eto fyth yr angen i ymdawelu?!  Mynnai’r Gweinidog fod ymdawelu’n bwysig, ond rhaid deall i ba ddiben yr ymdawelwn. Nid synfyfyrio mo gweddi, nac ychwaith ymroi i fyfyrdod. Ymdawelwn i wrando - i wrando’r yr hyn mae J.G.Moelwyn Hughes (1866-1944) yn ei ddisgrifio fel sŵn distawrwydd Duw. (Addoli; Gwasg y Brython, 1937).

Tynnwyd ein sylw at y llun uchod gan Orazio Gentileschi (1563-1639): The Lute Player (1612). Mae holl osgo hon yn ymgorfforiad o wrando. Un o hanfodion gweddi yw ymwybod â Duw; ond nid digon hynny. Dos i’th ystafell...meddai Iesu (Mathew 6:6), ond cofia gweddïo yn y lluosog: ein Tad, ein bara beunyddiol, ein dyledion (Mathew 6:5-15). Mater o berthynas ag arall yw’r bywyd defosiynol hyd yn oed pan fyddwn yn gweddïo yn y dirgel. Ymdawelwn i wrando llais Duw, a hefyd i wrando dyhead cyfaill, cri'r anghenus ac ochenaid y tlawd, ymhell ac agos.

Wedi trafod gweddi, aethom ati i weddïo. Gweddi â strwythur pendant iawn ydoedd, a phob cymal yn gorffen mewn cyfnod o dawelwch. Yn y cyfnodau rheini, anogwyd ni i gofio’n benodol a bwriadol: gwaith yr Eglwys ledled byd; swyddogion yr eglwys leol hon; eglwysi ein dinas a'n gwlad. Mudiadau ac elusennau sydd yn estyn cymorth i’r hen, y tlawd, y methedig a’r anghenus; cymdogion, cyfeillion a’r sefyllfaoedd rheini a fu, ac sydd mor amlwg ym munudau agoriadol y rhaglen newyddion, ac ar dudalennau blaen y papur newydd. Ceisiwyd gwneud hynny nid yn llipa gyffredinol, ond yn benodol, a bwriadol, gan enwi’n dawel unigolyn, mudiad a sefyllfa.

Diolch am gwmni’n gilydd, am drafodaeth a pharodrwydd i rannu a gwrando. Daeth Bethsaida eto â bodd a bendith.