O fis i fis adlewyrchir amrywiaeth ein haelodaeth yn amrywiaeth y gwahanol gyfeiriadau'r â’r Oedfa Gynnar iddi; ceir ynddi enfys o wahanol bwyslais, thema a neges. Yr unig beth sydd gyson yw’r fendith a gawn fel eglwys. Yn arwain yr Oedfa Gynnar heddiw oedd Rhiannon, a chawsom ganddi oedfa hwyliog, berthnasol a chwbl Grist ganolog!
Efeilliaid bu’n gyfrifol am ddefosiwn yr Oedfa - William a Lilian; a chan fod heddiw yn ben-blwydd iddynt, rhaid oedd canu a dymuno'n dda i'r naill a'r llall! Mawr ein diolch i Lilian am ddewis deallus o emyn:
Dyro dy gariad i'n clymu,
dy gariad fyddo'n ein plith...
dyro dy gariad i Gymru,
bendithion gwasgar fel gwlith:
dysg inni ystyr cariad at frawd:
dyro dy gariad i'n clymu,
dy gariad di.
(Dave Bilbrough, cyf. Catrin Alun; CFf.: 871)
Dyma weddi William:
O! Dduw, diolch am iechyd da a bywyd hapus.
Helpa ni i fyw bywydau iachus a chyflawn.
Diolch am y rhai sy'n gweithio neu yn gwirfoddoli i helpu rhai llai ffodus i fyw bywyd llawn.
Helpa ni hefyd i ddangos cariad at frawd. Cadw ni'n ddiogel a bydd gyda'r plant bach hynny sydd yn gorfod ffoi t'wyllwch a thrais.
Diolch am dy gariad a gofal drosom.
dyro dy gariad i'n clymu,
dy gariad di.
Amen.
Ein helusen fel eglwys eleni yw Pedal Power: The Cycling Charity For All, a 'Beic i Bawb' oedd man cychwyn Rhiannon. Dyma un o ffyddloniaid newydd PIMS: Ifan (a diolch i Tomi ac Erin am eu cymorth parod) ar gefn beic, â’r holl gêr angenrheidiol ganddo: gwisg lachar, golau ffrynt a chefn; cloch a helmed...a chan Rhiannon? Llawlyfr. Clamp o lyfr mawr: 'Rheolau'r Ffordd Fawr'.
Soniodd Rhiannon am y tebygrwydd sydd rhwng taith ar feic â’n taith trwy fywyd. Mae paratoi i’r daith yn bwysig. Cawsom, pawb ohonom ein paratoi gan deulu a theulu’r eglwys, gan athrawon a chymdogion. Mawr ein diolch i’r rheini a fu yn ein gosod ar ben ffordd; (Hyffordda blentyn ar ddechrau ei daith...Diarhebion 2:6).
Mae’r Llawlyfr yn rhoi’r cyfarwyddiadau. Cawn gyfarwyddyd gan bobl dda a doeth; a phwysig hynny; ond cawn gyfarwyddyd hefyd gan y Beibl.
Dyma Feibil annwyl Iesu...
Dengys hwn y ffordd i’r bywyd
drwy adnabod Iesu Grist.
(priodolir i Richard Davies, 1793-1826; CFf.:198)
Mae angen helmed i fod yn ddiogel; ac mae angen map, rhag colli’r ffordd; Dysg i mi dy ffyrdd, O! Arglwydd, arwain fi ar hyd llwybr union...(Salm 27:11). Rhaid hefyd, wrth olau i oleuo’r ffordd o’n blaenau (Y mae dy air yn llusern i’m troed...Salm 119:105), a phwysig iawn yw bod eraill yn gweld ein golau ni (...boed i’ch goleuni chwithau lewyrchu gerbron dynion...Mathew 5:16). Mae cloch yn ddefnyddiol ar brydiau, er mwyn i eraill gael gwybod ein bod ar y ffordd. Nid ein ffordd ninnau mohoni. ‘Rydym yn rhannu’r ffordd ag eraill, ac mae angen cwrteisi (Byddwch wresog yn eich serch at eich gilydd fel brawdoliaeth. Rhowch y blaen i’ch gilydd mewn parch...Byddwch yn gytûn ymhlith eich gilydd. Rhufeiniaid 12:10 a 16a). Weithiau mae'r llwybr yn anodd, ond rhaid dal ati, a dal ati i ddal ati, er mwyn cyrraedd y nod. Llesol yw cymryd hoe fach weithiau - dod i’r Cwrdd; addoli, gweddïo, ymlonyddu a sylwi ar fendithion anghyffredin ein byw bob dydd. Ar adegau hefyd, mae'r llwybr yn mynd am i fyny, a’r teithio’n anodd iawn...
Er i’r llwybr fod yn faith
bydd yn wrol, blin neu beidio...
(Norman Macleod, 1812-72 cyf. Ben Davies, 1864-1937; CFf.:735)
...ond rhaid cofio hyn: â ninnau wedi cyrraedd y top! O! Am hwyl wrth fynd goriwaered! Mae cael damwain, meddai Rhiannon, yn beth diflas, ond y cyngor bob amser yw dringo ‘nol i’r cyfrwy, dysgu gwers, a bwrw ymlaen.
Mae beic yn gadael ei farc ar y llwybr - gwnawn ninnau'r un modd: ein cyffes mewn cymwynas, ein credo mewn caredigrwydd.
Dod i mi galon well bob dydd
a’th ras yn fodd i fyw
fel bo i eraill drwof fi
adnabod cariad Duw.
(Eifion Wyn, 1867-1926; CFf.:681)
Wedi paned a sgwrs dros frecwast bach; a chasglu nwyddau rhagor i ddod â ni mymryn eto’n nes at yr Ail Dunnell o fwyd i Fanc Bwyd Caerdydd, ymlaen yr aethom i’r Oedfa Foreol, â’r Gweinidog yn parhau gyda’i gyfres o bregethau 'Efengyl Marc a’r flwyddyn 70'. Cytunir mai hon yw’r Efengyl gynharaf, ac iddi gael ei hysgrifennu tua’r flwyddyn 70. Trowyd y byd Iddewig a’i ben i waered, tu chwith allan yn y flwyddyn 70. Cododd yr Iddewon mewn gwrthryfel yn erbyn yr Ymerodraeth Rufeinig a...cholli. Bu methiant, siom a cholledion enfawr; do, hyn i gyd, ac wedyn dial; dial enbyd. Dinistriwyd y Deml; echel y ffydd Iddewig. Yr Ymerodraeth a orfu. Bwriad y gyfres hon yw amlygu arwyddocâd cyd-destun ysgrifennu Efengyl Marc i bobl ffydd yng Nghymru heddiw. Testun ein sylw heddiw oedd yr adnodau astrus rhain o bennod 12:
Wrth ddysgu yn y deml dywedodd Iesu, ‘Sut mae’r ysgrifenyddion yn gallu dweud bod y Meseia yn Fab Dafydd? Dywedodd Dafydd ei hun, trwy’r Ysbryd Glân: ‘Dywedodd yr Arglwydd wrth fy Arglwydd i, "Eistedd ar fy neheulaw nes imi osod dy elynion dan dy draed."’ Y mae Dafydd ei hun yn ei alw’n Arglwydd; sut felly y mae’n fab iddo?’ Yr oedd y dyrfa fawr yn gwrando arno’n llawen. (12:35-37).
Dyfynnir adnod agoriadol Salm 110 gan Iesu: Dywedodd yr ARGLWYDD wrth fy Arglwydd, ‘Eistedd ar fy neheulaw, hyd oni osodwyf dy elynion yn fainc i’th draed. (Salm 110:1 WM.)
Mae’r ARGLWYDD gyntaf mewn print bras. Pam? Defnyddir ARGLWYDD lle bynnag y gwelir, yn yr Hebraeg gwreiddiol, enw Duw; pedair llythyren - yod, heh, vod, heh - y tetragram. Beth a wnelo hyn a ni? Ydi hyn wir yn bwysig?!
Wrth dynnu sylw’r ysgrifenyddion - esbonwyr a dehonglwyr yr Ysgrythurau at y tetragram - yod, heh, vod, heh - enw Duw, mae Iesu Efengyl Marc yn gwthio’r gynulleidfa wreiddiol a ninnau gyda hwy, yn ôl i lyfr Exodus, ac yno, yn y drydedd bennod mae Duw yn enwi ei hun: Ydwyf yr hyn ydwyf (3:14) Yn ramadegol, nid yw’r amser presennol yn bodoli yn Hebraeg y Beibl. Mae’r enw Ydwyf yn yr amser amherffaith, felly mae ‘Byddaf’ yn nes ati. Byddaf yr hyn a fyddaf. Nid Deddfroddwr statig mo Duw, ond datblygiad parhaus, llif egniol o gariad ydyw.
Mynnai Marc fod y Deml wedi ei dinistrio, gan mai statig ydoedd. Crefydd statig, crefydda trwm, anhyblyg yn ceisio gwasanaethu Duw byw, deinamig. Mae crefydd yng Nghymru heddiw yn statig; yn styc. Cyfrinach cael bod eto’n rhydd yw ildio o’r newydd i Byddaf yr hyn fyddaf. Mae’r ildio hwn yn galw am ffydd feiddgar, cariad mentrus, a gobaith gwydn, ac o ildio iddo, daw ein gobaith yn fwy gwydn, ein cariad yn fwy mentrus, a’n ffydd yn fwy beiddgar.
Diolch i Marian am arwain ein gweddïau yn yr Oedfa. Benthycwyd geiriau'r drydydd emyn yn gyfrwng i gofio am y galarus a'r dolurus yn Ankara, Twrci.
O! Dduw, ein craig a'n noddfa,
rho nawdd i'r gwan a'r tlawd...
gwasgara'r rhai rhyfelgar
sy'n hoffi trin y cledd,
a boed i fwyn frawdgarwch
gyfannu'r byd mewn hedd.
(D. Miall Edwards (1873-1941; CFf.:830)
Ein braint heno, oedd ymuno yng Ngŵyl Bregethu Eglwys Ebeneser yn Eglwys Ganol y Ddinas (URC) Windsor Place. Ein cyfaill y Parchedig Ddr. R. Alun Evans oedd y pregethwr gwadd, a chawsom ganddo bregethu gwir afaelgar, a phregeth bwysig. Testun y bregeth oedd yr adnod hon o lythyr llawen Paul at yr Eglwys yn Philipi: Y mae gennyf gryfder at bob gofyn trwy'r hwn sydd yn fy nerthu i (4:13).
Man cychwyn naturiol ddigon y pregethwr oedd y gêm rygbi rhwng Iwerddon a Ffrainc. Dyma ddeg dyn ar hugain wedi rhoi o'u heithaf i ennill yr ornest. Bob un yn ymgorfforiad o'r "ewyllys i lwyddo".
Llun: theguardian.com
Pam nad oes gennym, fel Cristnogion Cymru mor ewyllys hwn i lwyddo? Aethom yn ddigalon. Collwydd bob "ewyllys i lwyddo". Codwn ein calonnau! Nid oes disgwyl i Gristnogion digalon allu cyflawni fawr o ddim. Colli hyder yw’r golled drymaf.
Y mis Gorffennaf 2013, bu farw tri milwr ar y Bannau tra ar brofion i ymuno â’r Special Air Service (SAS) Arwyddair yr SAS yw Who dares wins. Bu’r Crwner yn y cwest yn Solihull yn ddeifiol ei beirniadaeth, gan sôn am gatalog o gamgymeriadau difrifol; esgeulustod anfaddeuol; methiannau systematig, yr anallu i gynnig hyd yn oed y gofal meddygol mwyaf elfennol, a threfniadau achub cwbl ddryslyd. ‘Roedd y tri fu farw wedi dangos "yr ewyllys i lwyddo" - llwyddo i ymuno â’r ‘elite’.
Myn Paul yn ei lythyr at y Philipiaid, mai trwy nerth Crist yr ydym yn goresgyn pob rhwystr ac anhawster. Mae Paul, o garchar yn Rhufain, yn sgrifennu at yr eglwys yn Philipi. Un o ddinasoedd Macedonia, gwlad ar eithaf dwyrain cyfandir Ewrop oedd Philipi. Adeiladwyd hi gan Philip II, brenin Macedonia, tad Alexander Fawr. Safai Philipi ar y briffordd o Rufain i’r Dwyrain. Galwai'r Rhufeiniad y ffordd hon yn Via Egnatia. (Actau 16:12). Ceir hanes ymweliad cyntaf Paul â’r ddinas yn Actau 16, ar ei ail daith genhadol. Ar ôl cyrraedd Troas, ar gwr gorllewinol Asia Leiaf, cafodd Paul weledigaeth - gŵr o Facedonia, yn sefyll yn ei ymyl, ac yn deisyf arno i ddod drosodd i’w cynorthwyo. Aeth Paul ar ei union i Philipi. Ei gymdeithion oedd Silas, Luc a Timotheus.
Y Llythyr at y Philipiaid, er amgylchiadau anodd yr awdur, yw llythyr mwyaf llawen y Testament Newydd. Mae Paul yn atgoffa’i ddarllenwyr yn gyson bod yn rhaid iddynt fod yn llawen, dedwydd a hyfryd. Mae’n debyg fod Paul under house arrest neu mewn carchar Rhufeinig. ‘Roedd Cristnogion Philipi, ar ôl clywed am ei gyflwr, wedi danfon bwyd iddo gydag Epaffraditus, ac mae Paul yn cydnabod hyn, a’i galon yn llawn a diolchgar. Un o ddibenion y llythyr hwn yw diolch am eu haelioni, ond y pennaf ddiben yw rhannu cyfrinach ei lawenydd ef â hwy.
Aeth y pregethwr yn ei flaen i’n hatgoffa o’r hen ddelfryd Fictorianaidd: ‘muscular Christianity’, y cyfuniad o nerth corfforol a sicrwydd crefyddol. Mae’r pwyslais yn gyfoes hefyd. Yn yr UDA ceir ‘fitness driven churches’. Iesu yw’r ‘superhero’. Iesu iach, nerthol, grymus ydyw. Enw arall ar eglwys o’r fath yw ‘the overcomer church.’ Gwyn ein byd na fuasai elfen o overcomer church yma yng Nghymru! Boed parodrwydd newydd yn ein plith i ymddiried yng Nghrist, â bod, o’r herwydd, yn llawn a llwyr yr hyn y bwriadwyd i ni fod. Nid sôn am hunanamddiffyn, na hunanddigonedd mae Paul, ond am ddigonedd ac amddiffyn Duw; am allu Crist i gwrdd â phob gofyn.
SAS Iesu oedd y disgyblion. Bu’n eu hyfforddi am dair blynedd. Bu’r Stoic yn ymffrostio ei fod yn cyflawni popeth "trwy f’ewyllys fy hun", ond er gwaethaf ei anghenion a’i drafferthion i gyd, mae Paul yn gwybod yn iawn fod ganddo gryfder at bob gofyn yn a thrwy Iesu; yr hwn sydd yn fy nerthu i.
Nyni yw ‘elite’ Iesu. Awn rhagom, gan gofio fod gennym gryfder at bob gofyn. Awn rhagom, gan wybod, yn y pethau hyn i gyd yr ydym yn ennill buddugoliaeth lwyr trwy’r hwn a’n carodd ni (Rhufeiniaid 8:37).
Sul da. Boed bendith ar genhadaeth eglwys Ebeneser - nid to a wal sy’n gwneud eglwys, ond pobl yn mentro ar Dduw. Gweddïwn hefyd am wenau Duw ar weinidogaeth y Parchedig Ddr R. Alun Evans fel Llywydd Undeb yr Annibynwyr.
Gan edrych ymlaen at y Sul nesaf; bydd ein Gweinidog, yn yr Oedfa Foreol yn trafod emyn David Charles (1762-1834; CFf.:686):
O! Iesu mawr, rho d’anian bur
i eiddil gwan mewn anial dir,
i’w nerthu drwy’r holl rwystrau sy
ar ddyrys daith i’r Ganaan fry.
Yn yr Oedfa Hwyrol, parhawn gyda’r gyfres ‘Ffydd a’i Phobl - Hebreaid 11’, â chanolbwyntio’r tro hwn ar Abraham, Isaac, Jacob a Sara (11:8-12).
Ynghudd yn yr adnodau isod mae wyth o nofelau T. Llew Jones. Bu rhai yn haws na'i gilydd. Dyma’r atebion:
1. Salm 44:21b a Salm 147:16 - Cyfrinach y Lludw (1975)
2. Diarhebion 6:34 a Rhufeiniaid 12: 19 - Dial o’r Diwedd (1968)
3. Luc 12:34 a Datguddiad 18:17 - Trysor y Môr-ladron (1960)
4. Eseia 1:7a a Salm 25:13 - Tân ar y Comin (1975)
5. Diarhebion 29:24a a Rhufeiniaid 2:21 - Ymysg Lladron (1965)
6. Salm 139: 24 a Luc 10: 30. - Y Ffordd Beryglus (1963)
7. 1 Brenhinoedd 19:9 a Job 11:7. - Dirgelwch yr Ogof (1977)
8. Salm 19:2; Doethineb Solomon (Apocryffa) 5:14 a Colosiaid 1:13. - Un Noson Dywyll (1973)