Y Flwyddyn 70 ac Efengyl Marc (2):
Duw Iesu o Nasareth (Marc 12: 35-37)
Efengyl Marc a ysgrifennwyd gyntaf yng nghyfnod cwymp Jerwsalem a’r Deml. Bu i’r Iddewon wrthryfela yn erbyn yr Ymerodraeth Rufeinig; ganfod Duw o’u plaid, onid oedd buddugoliaeth yn sicr? Cafwyd siom a cholledion enfawr; dinistriwyd y Deml. Cwestiwn mawr cyfnod ysgrifennu Efengyl Marc oedd ‘Pam ddigwyddodd hyn?’ Rhaid oedd cynnig atebion. Wedi cwymp Jerwsalem, dim ond y Phariseaid a’r Iddewon Cristnogol oedd yn weddill o’r byd Iddewig. Mynnai’r Phariseaid mai canlyniad esgeulustod y bobl o ofynion Cyfraith Duw oedd cwymp Jerwsalem; rhaid oedd cael y bobl, o’r newydd, i dderbyn a bod yn ufudd i’r Gyfraith honno. Mynnai’r Iddewon Cristnogol mai canlyniad esgeulustod y bobl o neges Cyfraith Duw mewn cnawd - Iesu Grist - oedd dinistr y Deml. Iddynt hwy, rhaid oedd cael y bobl i dderbyn neges cariad Iesu Grist. Wrth wraidd hyn i gyd oedd y ddealltwriaeth o natur Duw.
Bu Iesu mewn sawl dadl â’r arweinwyr crefyddol: yr offeiriaid, yr ysgrifenyddion, a’r henuriaid (Marc 11:27); y Phariseaid a’r Herodianiaid (Marc 12:13); y Sadwceaid (Marc 12:18); a’r ysgrifenyddion eto (Marc 12:28; Marc 12:35-37). Mae Iesu Efengyl Marc yn ennill pob dadl! Ceir neges eglur. Pe byddai’r bobl hyn wedi gwrando ar Iesu a sylweddoli pwy a beth ydoedd - Mab y Duw byw - byddai Jerwsalem a’r Deml yn ddiogel, a’r grefydd Iddewig yn ffynnu. Nid felly y bu! Iesu yw echel pob un o’r dadleuon, yn benodol yr hyn a welwn o natur Duw yn a thrwyddo. Amlyga Marc argyhoeddiad yr Iddewon Cristnogol mai’r Duw a welir yn Iesu Grist yw gobaith Iddewon ac Iddewiaeth, yn hytrach na Duw'r Deddfroddwr - Duw'r Phariseaid. Hwn yw Duw byw deinamig Iesu o Nasareth; nid digon cadw’r ffydd, rhaid cael ein cadw ganddi.
"Wrth ddysgu yn y deml dywedodd Iesu, ‘Sut mae’r ysgrifenyddion yn gallu dweud...Dywedodd Dafydd ei hun...‘Dywedodd yr ARGLWYDD wrth fy Arglwydd i, "Eistedd ar fy neheulaw nes imi osod dy elynion dan dy draed."’ Y mae Dafydd ei hun yn ei alw’n Arglwydd; sut felly y mae’n fab iddo?’..." (Marc 12:35-37) Yn y darn hwn o’r Efengyl, mae’r ysgrifenyddion o dan y lach! Fe’u cyhuddir gan Iesu eu bod heb ddeall yr hyn y ceisiant ei esbonio! Defnyddia Iesu’r dyfyniad: "Dywedodd yr ARGLWYDD wrth fy Arglwydd, ‘Eistedd ar fy neheulaw, hyd oni osodwyf dy elynion yn fainc i’th draed." (Salm 110:1) Pam bod yr ARGLWYDD cyntaf mewn print bras? Dyma enw Duw yn yr Hebraeg; yod, heh, vod, heh - y tetragram - a yngenir fel Yahweh neu Jehofa. Dyma Yr Enw Mawr - ha Shem yn Hebraeg -; dim ond yr Archoffeiriad fyddai'n ynganu'r enw, a hynny ond unwaith y flwyddyn, yn y Cysegr Sancteiddiolaf. Pam mae hyn yn bwysig? Wrth dynnu sylw’r ysgrifenyddion at ha Shem, mae Iesu Efengyl Marc yn tynnu’r gwrandawyr yn ôl i lyfr Exodus: "Ydwyf yr hyn ydwyf. Dywed hyn wrth feibion Israel, Ydwyf sydd wedi fy anfon atoch." (Exodus 3: 14) Gan, yn ramadegol, nid yw’r amser presennol yn bodoli yn Hebraeg y Beibl, mae’r enw "Ydwyf" yn yr amser amherffaith; byddai ‘Byddaf’ yn nes ati! Byddaf yr hyn a fyddaf. Myn Efengyl Marc i bawb arddeall nad deddfroddwr yn unig yw Duw; yn hytrach, mae yn ddatblygiad parhaus, llif egnïol o gariad yn symud a newid o hyd i gwrdd â phob gofyn a goresgyn pob rhwystr. Heria Iesu Efengyl Marc yr ysgrifenyddion i gadarnhau yng nghlyw'r bobl fod yr ARGLWYDD cyntaf yn y dyfyniad o’r Salm yn ddim byd ond gorchudd dros y tetragram - ha Shem. Dymuniad Iesu Efengyl Marc yw ar i’r bobl weld a deall mawredd anhygoel Duw byw a deinamig; Duw gwahanol iawn i Dduw cyfraith a rheol statig y Phariseaid.
Onid amlwg y tebygrwydd rhwng y flwyddyn 70 a 2015? Mae’r Deml yng Nghymru’n sarn; bu i’r hen ffordd o grefydda ddarfod. Rhaid ceisio deall beth ddigwyddodd ddoe, a ffeindio’r ffordd ymlaen heddiw i yfory. Dinistriwyd yr hen Deml gan mai statig ydoedd; crefydd statig, a chrefydda trwm, anhyblyg yn ceisio gwasanaethu Duw byw a deinamig. Onid yw crefydd yng Nghymru heddiw yn statig? Gan Marc a’r Iddewon Cristnogol cawn gyfrinach bod yn rhydd: ildio o’r newydd i Byddaf yr hyn fyddaf. Nid Bûm yr hwn a fûm yw Duw; crefydd yn colli’r dydd yw honno sydd a’i grym mewn atgofion. Nid digon chwaith Ydwyf yr hyn ydwyf. Er cystal Duw heddiw, rhaid wrth fwy na hynny i yfory! Rhaid wrth Dduw sydd ar y blaen i; Duw sydd wedi cyrraedd trennydd erbyn i ni gyrraedd yfory, ac sydd wedi cyrraedd tradwy erbyn i ni gyrraedd trennydd! Onid ein hamharodrwydd i ddilyn Duw ymhellach o hyd yw prif achos ein diymadferthedd heddiw? I ddilyn Duw rhaid wrth ffydd feiddgar, cariad mentrus a gobaith gwydn, ac o’i ddilyn daw ein gobaith yn fwy gwydn, ein cariad yn fwy mentrus, a’n ffydd yn fwy beiddgar.
Anturiaeth yw dilyn Byddaf yr hyn a fyddaf. Tila, dof a diflas yw pob anturiaeth arall.
Mor fawr yr angen inni fentro arni, heddiw, mentro go iawn!