'Munud i Feddwl' ein Gweinidog
Chwefror. Mae’r enw Saesneg ‘February’ yn tarddu o’r Lladin: ‘Februa’ (puredigaeth/puro) ac ‘arius’ (ymwneud â/ag). Mis yn ymwneud â phuredigaeth yw ‘February’. Gelwyd Chwefror yn ‘Mis y blaidd’ gan y Rhufeiniaid. Duw’r mis hwn oedd Lupercus - ei bennaf gyfrifoldeb oedd gwarchod ei addolwyr rhag y blaidd. ‘Roedd y blaidd, yn ôl meddwl y Rhufeiniaid yn ymgorfforiad o bob creulondeb, naturiol felly iddynt oedd gwneud aberth i gadw gwên ar wyneb Lupercus. Ar y 15fed dydd o’r mis hwn, offrymwyd ebyrth i iddo. Gŵyl boblogaidd ydoedd, a’r enw arni oedd ‘Gŵyl Puredigaeth’. Credai’r Rhufeiniad mae’r llwybr unionaf at fendith Lupercus oedd llwybr purdeb.
Yn betrus braidd awgrymaf mai llesol yw ystyried hen arferion paganaidd! Oni fuasai Iesu yn cymeradwyo rhai pethau yn yr hen ŵyl hon? Efe, a ddywedodd wedi’r cyfan: Gwyn ei byd y rhai pur o galon. Ystyriwn felly ar ddechrau mis y puro mor bwysig yw nid yn unig ymgyfarwyddo â dysgeidiaeth Iesu, ond hefyd gofyn iddo buro ein meddwl, ein dychymyg a’n cydwybod, fel y bydd ei ewyllys ef yn llenwi a llywio ein hewyllys ni. Boed i ddyhead William Williams, Pantycelyn ddeffro dyhead tebyg ynom ni:
Rho gydwybod wedi ei channu’n
Beraidd yn y dwyfol waed.
Goddefwch air bach arall am enw'r mis hwn: Mis y Blaidd. Ers dyddiau plentyndod bu gen i ddiddordeb mewn bleiddiaid. Mae’r blaidd i’w gael yn yr Unol Daleithiau, Canada, Alaska, Asia a Dwyrain Ewrop. O blith pob anifail pedwar troed sy’n bod, y blaidd ydi’r heliwr mwyaf dinistriol. Y canlyniad anochel oedd i’r blaidd droi’n elyn i ni, yn destun ofn, sgrech a hunllef; creadur na allai neb ei ddeall na’i ddofi ‘chwaith. O’r herwydd, rhaid oedd ei ddifa a’i ddileu.
Pwy piau’r byd a bywyd? Mae’n ymddangos mae’r blaidd piau’r cyfan. Os mae’r blaidd piau bywyd a byd mae’r oen druan yn gyfan gwbl, gwbl gyfan ddiamddiffyn. Nid oes gan yr oen gyfrwystra fel sydd gan y blaidd, nac ychwaith mo’r nerth sydd gan flaidd.
Beth all yr oen wneud felly? Fawr o ddim. Ond, mae yna anifail mae’r blaidd - hyd yn oed - yn ei ofni, a’r anifail hwnnw ydi dyn. Nid oes ar flaidd ofn yr oen ond y mae arno ofn bugail yr oen. Dyna oedd cyngor Iesu, wrth iddo anfon ei ddisgyblion allan fel defaid i blith bleiddiaid: cadwed yr oen mor agos ag sydd yn bosibl at y bugail.
Pwy piau bywyd a byd? Y bugail neu’r blaidd? Daw’r Gwanwyn. Bydd y caeau ym mhob man yn llawn o ddefaid ac ŵyn - cannoedd ohonynt yn pori’n dawel fodlon. Cofiwn hyn: bu bleiddiaid hyd yr ardaloedd hyn ganrifoedd yn ôl. Bu’r heliwr yn ein cynefin. Nid oes yma yn un blaidd ar ôl erbyn heddiw, ddim un o gwbl drwy’r wlad.
Mae’r oen wedi goroesi’r blaidd. Yr oen sydd wedi meddiannu’r dydd a’r mynydd. Yr oen piau’r byd a bywyd: Gwyn eu byd y rhai addfwyn, canys hwy a etifeddant y ddaear.
(OLlE)