Ust! Fy nghariad sydd yna!
(Caniad Solomon 2:8 beibl.net)
Ust! dyma fy nghariad ...
(Caniad Solomon 2:8 BCN)
Dyma lais fy anwylyd ...
(Caniad Solomon 2:8 WM)
Gwell gennyf fy anwylyd na fy nghariad. Awgryma fy anwylyd gariad dyfnach na’r cyffredin. Nid yw gyfarchiad ysgafn!
... dyma ef yn dod,
y mae’n neidio ar y mynyddoedd,
ac yn llamu ar y bryniau.
Gobaith a llawenydd sydd yn yr adnod hon. Mor brin yn ein crefydda yw’r nodyn hwn o lawenydd. Fe ddylai fod llawenydd yn amlwg ac yn gyson ynglŷn â gwaith Duw. Lle mae perthynas arbennig â Christ - perthynas fy anwylyd - y mae llawenydd ar bob llaw.
Benthycwn brofiad William Williams (1717-91) yn sbardun i fyfyrdod pellach a gweddi:
Mae llais yn galw i maes o’r byd,
A’i bleser o bob rhyw;
Minnau wrandawa’r hyfryd sŵn -
Llais fy Anwylyd yw. Amen.
(OLlE)