• Y diweddaraf
  • Hafan
  • Amdanom
  • Dyddiadur
  • Yr Ifanc
  • Cysylltu
Menu

Eglwys Minny St.

Street Address
City, State, Zip
Phone Number

Your Custom Text Here

Eglwys Minny St.

  • Y diweddaraf
  • Hafan
  • Amdanom
  • Dyddiadur
  • Yr Ifanc
  • Cysylltu

'YMLAEN': Y SUL A'R WYTHNOS NEWYDD

February 3, 2017 Owain Evans

Bore Sul, Oedfa i’r Teulu a Chymundeb am 10:30. Parhawn i ystyried Ffrwyth yr Ysbryd gan ganolbwyntio’r mis hwn ar garedigrwydd, neu yn ôl William Morgan, cymwynasgarwch pobl ffydd.

Wrth y bwrdd cawn eto gyfle i gydymdeimlo â’r galarus yn ein plith, a chofio’r aelodau hynny sy’n methu a bod gyda ni, gan bellter ffordd, cystudd neu henaint.

Er nad yw plant yn cymuno yn eglwys Minny Street, mae’n fwriad gennym fod y plant a’r plantos yn dysgu beth yw arwyddocâd y ddefod hon. I wneud hynny, rhaid iddynt ddeall beth sydd yn digwydd, ac o’r herwydd symleiddiwyd yr eirfa ac addaswyd y delweddau’r mymryn lleiaf i gynnwys, addysgu a pharatoi’r ifanc yn ein plith.

Bydd casgliad rhydd yr Oedfa hon er budd ein helusennau eleni. Bydd cyfle i’r plant ddangos gwerthfawrogiad o gael dod yn ei ‘onesies’ ac i’r oedolion ddangos cefnogaeth i’r Gweinidog am ymateb i her y plant i arwain rhan gychwynnol yr Oedfa yn ei ‘onesie’ yntau! Bydd paned a nwyddau Masnach Deg yn y Festri wedi’r Oedfa Foreol ynghyd ȃ "Dewch a Phrynwch", eto er budd ein helusennau.

Gan ddechrau ar gyfres o fyfyrdodau bach syml yn seiliedig ar emynau William Williams, Pantycelyn (1717-91) echel sgwrs y Gweinidog â’r plant bore Sul fydd:

Boed fy nghalon iti’n demel,

boed fy ysbryd iti’n nyth,

ac o fewn y drigfan yma

aros, Iesu, aros byth:

gwledd wastadol

fydd dy bresenoldeb im.

(698; Caneuon Ffydd)

Yn yr Oedfa Hwyrol (18:00) ystyrir neges yr emyn hwn:

Ymhlith holl ryfeddodau’r nef,

Hwn yw y mwyaf un -

Gweld yr anfeidrol ddwyfol Fod

yn gwisgo natur dyn.

(292; Caneuon Ffydd)

Mae tri llythyr o eiddo Ioan yn y Testament Newydd. Ychydig iawn o sylw a roddir iddynt. Testun homili’r Gweinidog fydd cymeriadau llythyr olaf Ioan: Gaius; Diotreffes a Demetrius. Gŵr annwyl a da oedd Gaius. I’r gwrthwyneb, lletchwith a thrafferthus oedd Diotreffes! Cenhadwr, ac esiampl i’w efelychu oedd Demetrius. Mae’r tri hyn yn gymeriadau cyfoes, yn bresennol ac ar waith ym mhob eglwys leol!

Wedi hwyl y Noson o Ddringo yng Nghanolfan Ddringo ‘Boulders’ bydd PIMS ‘nol i waith nos Lun (6/2; 19:00-20:30)! Caredigrwydd/Cymwynasgarwch fydd testun y noson (Galatiaid 5:22,23).

Bethania nos Fawrth (7/2; 19:30-21:00). Diolch i Ann am ein croesawu. Y thema yw ‘Cyfeillion Paul’. Testun ein y sylw yn cyfarfod hwn bydd Euodia a Syntyche: Yr wyf yn annog Euodia, ac yn annog Syntyche, i fyw’n gytûn yn yr Arglwydd (Philipiaid 4:2 BCN).

Koinônia amser cinio dydd Mercher (8/2): Mae ‘na fwy i bryd o fwyd o gwmpas bwrdd na bodloni’r archwaeth am fwyd. Mae’n gyfle i rannu syniadau, i drafod, i gymdeithasu a dod i nabod ein gilydd yn well. Dyna sy’n digwydd yn y Koinônia misol.

Bore Gwener (10/2; 11:00): ‘Llynyddwch’. Paned wrth ymyl llyn llonydd y Rhath. Yn Terra Nova cawn gyfle i drafod, fesul pennod, llyfr Rowan Williams: Choose Life (Bloomsbury, 2013). Echel ein trafodaeth fore Gwener fydd Letting Go (t.111-119).

← SALMLUPERCUS, Y BLAIDD A'R OEN →

Eglwys Annibynnol Minny St.
Y Waun Ddyfal, Caerdydd
CF24 4ER

Lawrlwytho
Dogfennau

©minny St 2021