’Rwy’n gweddïo ar iddynt oll fod yn un ... (Ioan 17:21)
Ymgais i ymateb i Orlando, Jo Cox a’r Refferendwm Ewropeaidd
Eglwys Minny Street: cynulleidfa cymharol niferus a chymysg o Bobl Dduw. Rhai yn debycach i’w gilydd nag eraill; neb yn hollol yr un fath. Er yr amrywiaeth, wrth ddod ynghyd, mae pawb yn un ac yn blant yr un Duw Dad. Yr un enw sydd ar bob gwefus; un Ysbryd Glân yn creu un gymdeithas o gredinwyr ac yn ysbrydoli’r addoliad a offrymir. Yn rhinwedd ein Ffydd, ‘rydym oll yn un. Amrywiaeth mewn unoliaeth. Onid dyma’r ddelfryd ar gyfer ein cenedl? Nid dileu’r gwahaniaethau sy’n rhoi i bob bro ac ardal, i bob crefft a chelfyddyd, ac i bob dawn a diddordeb ymhlith ei phobl ei arbenigrwydd gwerthfawr ei hun, ond creu un ysbryd gwladgarol iach sy’n esgor ar oddefgarwch a pharch pawb at ei gilydd, a chydweithrediad brwd pob un er lles pawb. Onid yr un y ddelfryd ar gyfer yr Eglwys hefyd? Nid dileu’r amrywiol safbwyntiau a phwysleisiau, ond chwalu’r muriau o ragfarn, drwgdybiaeth a chystadleuaeth sy’n parhau i’n cadw ar wahân. Cael pawb sy’n cyffesu enw Crist i ymuno’n un gymdeithas o gariad a chydweithrediad ar sail ein teyrngarwch i’r Un Arglwydd. Yr undod y gweddïodd Iesu amdano: ‘Rwy’n gweddïo ar iddynt oll fod yn un, ie, fel yr wyt ti, O! Dad, ynof fi a minnau ynot ti … iddynt fod yn un fel yr ydym ni yn un. (Ioan 17:21-22). Gwreiddiwyd yr egwyddor o amrywiaeth mewn unoliaeth yn nirgelwch bywyd y Duwdod ei Hun. Undod cymeriad, pwrpas a chariad yw’r undod y geilw Efengyl Crist arnom i’w feithrin a’i amlygu fwyfwy ... ym mherthynas Cristion gyda cyd-Gristion, Cymro gyda chyd-Gymro, a dyn gyda’i gyd-ddyn.
Yn y cyswllt eglwysig, gwelir dwylo’n ymestyn at ei gilydd ar draws ffiniau enwadol. Boed i hyn barhau. Daliwn ati i estyn llaw at ein gilydd, gan ganolbwyntio’n sylw nid ar y pethau sydd yn ein gwahanu, ond ar yr Arglwydd byw, bendigedig sydd yn ein huno. A gawn ni, Gymry, o bob bro a chefndir, o bob plaid, iaith a diwylliant estyn llaw i’n gilydd fel Cymry sy’n caru lles ein cenedl ac yn dymuno’i ffyniant ym mhopeth sy’n cyfrannu at fywyd cenedlaethol llawn a dyrchafol? Boed i ni gydgerdded, cydsefyll, cyd-dynnu, cyd-ddyheu a chydymdrechu i ddiogelu’r gwerthoedd gwâr a wnaeth ein cenedl yr hyn ydyw a’i gwneud yn ardderchocach fyth. Un teulu ydym; Teulu Duw. Parhawn i estyn ein dwylo at bobl o bob cenedl, llwyth ac iaith. Boed i ni gyfarch ein cyd-ddyn, beth bynnag yw lliw ei groen, ei iaith, ei gredo, neu ei amgylchfyd gwleidyddol a diwylliannol. Estynnwn ein llaw i ddarganfod a meithrin ein dynoliaeth gyffredin mewn cydymdrech yn erbyn pob gormes sy’n mathru hawliau ac urddas cynhenid dyn.
... ar iddynt oll fod yn un ... Gweddi Crist. Ei weddi ar ran ei Eglwys, ond hefyd am gymdeithas unedig oddi mewn ac ar draws ffiniau cenedl, undeb rhwng cenhedloedd a’i gilydd, a’r cyfan wedi’u cynnwys yn y dyhead a’r bwriad: ’Rwy’n gweddïo ar iddynt oll fod yn un, ie, fel yr wyt ti, O! Dad, ynof fi a minnau ynot ti … iddynt fod yn un fel yr ydym ni yn un. Bwriad achubol yw bwriad Duw. Mae angen ein hachub arnom; oni welwyd tystiolaeth o hynny yn Orlando? Bwriad achubol Duw yng Nghrist yw’r unig rym sy’n ddigon nerthol i droi’r weledigaeth ... ar iddynt oll fod yn un … yn ffaith. Dim ond grym cariad achubol all oresgyn yr holl bethau sy’n gwahanu pobl oddi wrth Dduw ac oddi wrth ei gilydd. Boed i weddi Iesu fod yn weddi i ninnau - yn ein perthynas gyda’n gilydd yn Eglwys Minny Street; yn ein perthynas gyda’n gilydd fel Eglwysi a chymunedau ffydd; ac yn ein perthynas gyda’n gilydd fel teulu o genhedloedd: ... ar iddynt oll fod yn un, ie, fel yr wyt ti, O! Dad, ynof fi a minnau ynot ti … iddynt fod yn un fel yr ydym ni yn un.
Efengyl tangnefedd, O! rhed dros y byd: a deled y bobloedd i’th lewyrch i gyd ..."
(Eifion Wyn, 1867-1926; C.Ff: 844)
‘Rwy’n gweddïo ar iddynt oll fod yn un ... (Ioan 17:21) Boed i weddi Iesu fod yn weddi i ni: Pobl Crist, Cymru a Chenhedloedd byd.