Y Flwyddyn 70 ac Efengyl Marc (7): Iesu - Bara Croyw a Gwaed
Efengyl Marc a ysgrifennwyd gyntaf adeg cwymp Jerwsalem. Dim ond y Phariseaid a’r Iddewon Cristnogol oedd ar ôl wedi'r cwymp. Mynnai’r Phariseaid mai canlyniad esgeulustod o ofynion Cyfraith Duw oedd cwymp Jerwsalem. Mynnai’r Iddewon Cristnogol mai canlyniad esgeulustod y bobl o neges Cyfraith Duw oedd dinistr y Deml; rhaid oedd cael y bobl i dderbyn neges cariad Iesu Grist.
Ac wrth iddynt fwyta, cymerodd fara ... "Cymerwch; hwn yw fy nghorff." A chymerodd gwpan ... "Hwn yw fy ngwaed i, gwaed y cyfamod ... pan yfaf ef yn newydd yn nheyrnas Dduw."" (Marc 14:22-25) Wrth gofnodi Sefydlu Swper yr Arglwydd ceisia Marc argyhoeddi pobl Jerwsalem mai dilyn Iesu sydd raid. Ar ddydd cyntaf gŵyl y Bara Croyw, pan ledid oen y Pasg ... (Marc 14: 12) Byddai Gŵyl y Bara Croyw a Gwledd y Pasg yn gyfarwydd i gynulleidfa Marc: ... lladdwch oen y Pasg. Yna cymerwch dusw o isop a’i drochi yn y gwaed, a thaenwch y gwaed ar gapan a dau bost y drws ... Cadwch y ddefod hon yn ddeddf i chi a’ch plant am byth (Exodus 12:21b-24). Oen, bara croyw a llysiau chwerw; dyma atgoffa’r Israeliaid o fwyd eu hynafiaid cyn cychwyn o’r Aifft: Y maent i fwyta’r cig ... a’i fwyta gyda bara croyw a llysiau chwerw. ... yr ydych i’w fwyta ar frys (Exodus 12:8,11). Gwin - gwaed: ... cymerodd lyfr y cyfamod ... cymerodd Moses y gwaed a’i daenellu dros y bobl, a dweud, "Dyma waed y cyfamod" (talfyriad o Exodus 24:1-11).
Bara croyw: matzah - bara croyw: blawd, dŵr a halen. Matzah yw Iesu. Bara syml. Bara brys, bara ffoi, bara anghenraid - bara goroesi. Bu bara croyw yn gynhaliaeth i bobl Dduw wrth adael yr Aifft a mentro i’r anialwch. Dinistriwyd Jerwsalem, collwyd y Deml, ysigwyd ffydd - anialwch ... matzah. O’r pedwar adroddiad o Sefydlu Swper yr Arglwydd bernir mai Marc a 1 Corinthiaid yw’r mwyaf gwreiddiol; tybir mai 1 Corinthiaid yw’r cynharaf. Dywed Paul: Y cwpan hwn yw’r cyfamod newydd, yn fy ngwaed i. (1 Corinthiaid 11: 25); ysgrifenna Marc: Hwn yw fy ngwaed i, gwaed y cyfamod, sy’n cael ei dywallt er mwyn llawer (Marc 14:23). Sonia Paul am gyfamod newydd, sôn am y cyfamod a wna Marc. Wrth i Paul ysgrifennu at genedl-ddynion pwysig oedd iddo bwysleisio newydd-deb y cyfamod; hynny yn cynnwys pawb o bobl y byd. I’r Iddewon, nid diddymu hen gyfamod a wna Iesu, ond cadarnhau parhad ac adfywiad hen gyfamod. Gwaed: ... cymerodd lyfr y cyfamod ... Yna cymerodd Moses y gwaed a’i daenellu dros y bobl ... "Dyma waed y cyfamod ..." (talfyriad o Exodus 24:1-11). Yn Efengyl Marc: cymerodd gwpan ... ac yfodd pawb ohono - a dim ond wedyn, ar ôl i bawb yfed, meddai Iesu, ‘Hwn yw fy ngwaed i, gwaed y cyfamod. Yn Lefiticus cawn yr adnod: ... y mae bywyd y corff yn y gwaed (Lefiticus 17:11). Tebyg mai atgas i’r disgyblion y syniad o gwpan o win yn symbol o waed person.
Mae neges Marc i Iddewon Jerwsalem yn berthnasol i ni. Ceir dau air am fara yn yr Hebraeg: matzah a chametz. Gair eang ei ystyr yw chametz; gall olygu torth gyffredin o fara ond hefyd danteithion, moethau bywyd. Nid oes dim felly yn perthyn i matzah. Onid matzah sydd ei angen arnom? Mae crefydd a chrefydda yng Nghymru yn wynebu ar anialwch ysbrydol. Angen bara syml, bara anghenraid a bara goroesi sydd arnom. Matzah ein crefydd yw cydnabod a pharchu Iesu Grist. Chametz yw pob deall; y Matzah yw credu. Er mwyn byw a gweithredu fel Cristion yng Nghymru heddiw rhaid, nid wrth ddeall, ond trwy gredu fod Duw wrth ei waith o hyd, a bod i ninnau le a chyfle yn y gwaith mawr hwnnw. I oroesi rhaid i bobl Crist yng Nghymru wynebu’r atgas. Bydd rhaid derbyn pethau na fu’n dderbyniol, a mynd i gyfeiriadau na fuom erioed iddynt o’r blaen. Derbyn yr atgas sydd raid. Hynny er mwyn cyflwyno i genhedlaeth newydd y Duw a’n carodd, cofiodd, ceisiodd, cafodd, cadwodd a’n cododd.
Wynebwn ar yr anialwch hwn: bydd bara croyw’n ddigon i’n cynnal.
Cymerwn gwpan yr atgas; fe all mai’r cwpan newydd hwn yw cwpan iachawdwriaeth.