Man cychwyn pob Oedfa yw’r weddi a offrymir yn ‘Stafell y Diaconiaid. Dylid dechrau Newyddion y Sul gyda chofnod o’r weddi a offrymwyd y bore heddiw:
Dduw cariadus, deuwn atat ar Ddiwrnod y Tadau yn cael ein hatgoffa mai ti yw ein Tad ni oll. Rwyt wedi bod gyda ni ers ein geni, yn arwain, annog a’n cynnal. Pryd bynnag roeddem dy angen, roeddet yno yn barod i wrando a chynghori ac eto yn caniatáu i ni ryddid i wneud ein dewisiadau a dod o hyd i’n ffordd ein hunain. Addysga ni i fyw fel dy blant ac i glywed dy lais, i ufuddhau i’th orchymyn ac i ymateb i’th ddaioni Dduw Dad. Derbyn ein diolch am y tadau a roddaist i ni a’r hyn maent wedi’i olygu i ni, am bopeth a roddasant a phopeth a wnaethant mewn amrywiol ffyrdd.
Diolch i ti ein Tad am gymdeithas dy Eglwys yn y lle hwn ac am y fraint unwaith eto o gael dy addoli yn enw dy fab, ein Harglwydd Iesu Grist. Gweddïwn dros bawb yn ein plith a thros y rhai hynny nad sy’n abl i ddod i dy gysegr i’th addoli. Bydd gyda phob yr un ohonom yn dy dosturi. Bydd gyda theulu’r fam a gollodd ei bywyd yn ystod yr wythnos wrth wneud ei gwaith yn ceisio byd gwell i bawb - cofia am ei phriod a’r plant bach hynny na fydd eto’n cael profi cariad mam. Bydd gyda’r tad arbennig hwn yn ei hiraeth a rho iddo nerth i fod yn dad ac yn fam i’r plant bach. Gwna’r byd yn well lle i bawb fyw ynddo a gad i ni drwy ein ffydd ddeisyf ar bawb i fyw’n heddychlon mewn cariad at ei gilydd fel na fydd yr holl erchyllterau yn ein hwynebu bob dydd ar y teledu ac yn ein papurau newydd. Dyro dy fendith ar yr oedfa’r bore hwn yn enw dy fab Iesu Grist. Amen
Ein braint heddiw oedd tystio i fedydd Gruff Llewelyn Walters, a braf oedd cael croesawu teulu a ffrindiau i’r Oedfa Foreol.
Mari Fflur bu’n arwain y defosiwn, a llawn haeddai’r myfyrdod hwnnw ei gofnodi’n llawn.
Mae Dadi yn gweithio yn Ffrainc ers bron i bythefnos! Maen nhw’n dweud wrtha i bod gemau pêl-droed pwysig yn digwydd yno ar hyn o bryd! Fydd Dadi ddim yma ar Sul y Tadau heddiw, ond yn y garden wnes iddo yn yr ysgol ‘rwyf wedi ysgrifennu pump peth hyfryd am Dadi:
- Mae’n gofalu amdanaf fi
- Mae chwarae gyda fi
- Mae’n gwneud i mi chwerthin
- Mae’n caru fi
- Mae’n coginio bwyd blasus i fi.
Mae’r Sul yma yn gyfle i gofio am gariad pawb sy’n gofalu amdanom ni, nid tadau yn unig, ond mamau, neiniau a theidiau, antis ac wncwls a ffrindiau, a hefyd i gofio bod yn rhaid i ni lapio cariad o gwmpas ein byd a’n cyd-ddyn.
Wedi darllen Emyn Paul i Gariad (1 Corinthiaid 13; beibl.net), aeth Mari Fflur yn ei blaen …
Cyn dod i’r capel y bore ‘ma, gwelais lun o dîm pêl-droed Cymru a’r geiriau ‘Together - Stonger' neu ‘Cryfach gyda’n Gilydd' oddi tano. Yn 'Gryfach gyda’n Gilydd': gallwn ddefnyddio cariad i gael gwared ar gasineb, i ddileu anghyfiawnder a dryllio drygioni. Fel y dywedodd chwaer Jo Cox ddoe, dylem ganolbwyntio ar yr hyn sy’n ein clymu ynghyd yn hytrach na’r hyn sy’n ein rhannu. Sicrhawn mai Cariad sydd ar frig y Tabl; Cariad sy’n sgorio’r pwyntiau a Chariad yn ennill y dydd!
Yn arwain at Weddi Fawr Sant Ffransis, offrymwyd y weddi fach rymus hon gan Mari Fflur:
Wrth i ni blygu pen heddiw, O! Nefol Dad, gad i ni gofio am deuluoedd a thadau ar draws y byd sydd mewn tristwch, anobaith, dryswch a gwrthdaro. Ar Sul y Tadau, gad i ni gofio yn arbennig am Jo Cox, ei rhieni, a’i theulu annwyl: dau blentyn bach, 5 a 3 oed, a’u tad. Amen.
 hwythau wedi cyrraedd i’r Set Fawr, a phob un wedi rhannu adnod, cafodd y plant anrheg gan y Gweinidog: darn bach o bren lliwgar! Heddiw, awgrymodd Owain Llyr, nhw oedd y darn bychan hwn o bren. Gosododd bag brethyn syml yn ei le; dyma, mynnai oedd Eglwys Iesu Grist. ‘Roedd y plant wedi dechrau deall … a’r oedolion yn y gynulleidfa hefyd, wrth i rai ohonynt sylweddoli fod darn bychan o bren lliwgar ym mhob sedd! Gosododd y Gweinidog darnau pren y plant yn dwt yn y bag brethyn. ‘Roeddent yn Eglwys Iesu Grist, yn perthyn iddi bob un. Wedyn, er mawr fwynhad i’r plant gofynnodd y Gweinidog i’r oedolion ddod ato i’r Set Fawr, pob un â’i ddarn bychan bach o bren lliwgar. Gosodwyd y darnau pren rheini hefyd yn ofalus yn y bag brethyn. Un peth oedd yn weddill i wneud, cael darn bychan bach o bren gan y bychan Gruff. Wedi gosod ‘Gruff’ yn y bag, ‘roedd pawb bellach yn ‘Eglwys Iesu Grist’. Wedi sôn ychydig am bwysigrwydd perthyn i gymuned ffydd a mynychu Oedfa, cymerodd Owain y darnau pren allan i gyd, a chan afael yn dynn ynddynt, aeth yn ei flaen gan nodi fod Cariad Iesu Grist yn clymu ei bobl yn un: ynddo a thrwyddo yr ydym yn 'Gryfach gyda’n Gilydd'. Er mawr syndod i'r oedolion, ond nid i’r plant - maen nhw wedi hen arfer a thriciau Owain Llyr! - gwelwyd fod y darnau bach pren i gyd bellach yng nghlwm wrth ei gilydd! Sut gwnaethpwyd hynny? Bydd rhaid i chi ddyfalu!
Yn ei bregeth bu’r Gweinidog yn ceisio ymateb i’r lladd yn Orlando, llofruddiaeth Jo Cox a’r Refferendwm Ewropeaidd. (Mae cofnod llawnach o ddwy bregeth y dydd eisoes ar y wefan) ‘Rwy’n gweddïo ar iddynt oll fod yn un ... (Ioan 17:21-22). Gweddi Crist: ... ar iddynt oll fod yn un ... Ei weddi ar ran ei Eglwys, ond hefyd am gymdeithas unedig oddi mewn ac ar draws ffiniau cenedl, undeb rhwng cenhedloedd a’i gilydd, a’r cyfan wedi’u cynnwys yn y dyhead a’r bwriad: ’Rwy’n gweddïo ar iddynt oll fod yn un, ie, fel yr wyt ti, O! Dad, ynof fi a minnau ynot ti … iddynt fod yn un fel yr ydym ni yn un.’ Bwriad achubol yw bwriad Duw. Mae angen ein hachub arnom; oni welwyd tystiolaeth o hynny yn Orlando, ac yn lladd Jo Cox? Bwriad achubol Duw yng Nghrist yw’r unig rym sy’n ddigon nerthol i droi’r weledigaeth ... ar iddynt oll fod yn un … yn ffaith. Dim ond grym cariad achubol all oresgyn yr holl bethau sy’n gwahanu pobl oddi wrth Dduw ac oddi wrth ei gilydd. Boed i weddi Iesu fod yn weddi i ninnau - yn ein perthynas gyda’n gilydd yn Eglwys Minny Street; yn ein perthynas gyda’n gilydd fel Eglwysi a chymunedau ffydd; ac yn ein perthynas gyda’n gilydd fel teulu o genhedloedd: ... ar iddynt oll fod yn un ...
Yn yr Oedfa Hwyrol, cafwyd cyfle i barhau gyda’r gyfres bregetha Y Flwyddyn 70 ac Efengyl Marc. Efengyl Marc a ysgrifennwyd gyntaf adeg cwymp Jerwsalem. Dim ond y Phariseaid a’r Iddewon Cristnogol oedd ar ôl wedi'r cwymp. Mynnai’r Phariseaid mai canlyniad esgeulustod o ofynion Cyfraith Duw oedd cwymp Jerwsalem. Mynnai’r Iddewon Cristnogol mai canlyniad esgeulustod y bobl o neges Cyfraith Duw oedd dinistr y Deml; rhaid oedd cael y bobl i dderbyn neges cariad Iesu Grist.
Gan ein harwain heno i gofnod Marc o Sefydlu Swper yr Arglwydd, bu ein Gweinidog yn trafod ‘Bara’, ‘Cyfamod’ a ‘Gwaed’.
Bara: Matzah yw Iesu. Bara croyw ydyw - blawd, dŵr a halen. Bara anghenraid - bara goroesi. Bu bara croyw yn gynhaliaeth i bobl Dduw wrth adael yr Aifft a mentro i’r anialwch. Dinistriwyd Jerwsalem, collwyd y Deml, ysigwyd ffydd - anialwch ... matzah.
Cyfamod: O’r pedwar adroddiad o Sefydlu Swper yr Arglwydd bernir mai Marc a 1 Corinthiaid yw’r mwyaf gwreiddiol; tybir mai 1 Corinthiaid yw’r cynharaf. Dywed Paul: Y cwpan hwn yw’r cyfamod newydd, yn fy ngwaed i. (1 Corinthiaid 11: 25); ysgrifenna Marc: Hwn yw fy ngwaed i, gwaed y cyfamod, sy’n cael ei dywallt er mwyn llawer (Marc 14:23). Sonia Paul am gyfamod newydd, sôn am y cyfamod a wna Marc. Wrth i Paul ysgrifennu at genedl-ddynion pwysig oedd iddo bwysleisio newydd-deb y cyfamod; hynny yn cynnwys pawb o bobl y byd. I’r Iddewon, nid diddymu hen gyfamod a wna Iesu, ond cadarnhau parhad ac adfywiad hen gyfamod.
Gwaed: ... cymerodd lyfr y cyfamod ... Yna cymerodd Moses y gwaed a’i daenellu dros y bobl ... "Dyma waed y cyfamod ..." (talfyriad o Exodus 24:1-11). Yn Efengyl Marc: ... cymerodd gwpan ... ac yfodd pawb ohono - a dim ond wedyn, ar ôl i bawb yfed, meddai Iesu, "Hwn yw fy ngwaed i, gwaed y cyfamod". Yn Lefiticus cawn yr adnod: ... y mae bywyd y corff yn y gwaed (Lefiticus 17:11). Tebyg mai atgas i’r disgyblion y syniad o gwpan o win yn symbol o waed person - cwpan atgas ydoedd! Daw hynny’n amlwg wrth ddarllen yr adnod flaenorol ... os bydd unrhyw un o dŷ Israel, neu o’r estroniaid sy’n byw yn eu mysg yn bwyta unrhyw waed, byddaf yn gosod fy wyneb yn erbyn y sawl sy’n bwyta gwaed, ac yn ei dorri ymaith o blith ei bobl (Lefiticus 17:10).
Mae neges Marc i Iddewon Jerwsalem yn berthnasol i ni. Wynebwn ar yr anialwch hwn: bydd bara croyw cydnabod a pharchu Iesu’n ddigon i’n cynnal. Cymerwn gwpan yr atgas; fe all mai’r cwpan newydd hwn yw cwpan iachawdwriaeth.
Bu i’r gymdeithas barhau yn Koinônia: swper blasus a sgwrs ddifyr mewn bwyty Eidalaidd cyfagos.
Diolch am amrywiol fendithion y Sul.
BANC BWYD CAERDYDD: HANNER BLWYDDYN O HAELIONI!
Diolch i bawb sydd wedi cyfrannu bwyd yn gyson i fanc bwyd y brifddinas ers dechrau'r flwyddyn. Derbyniwyd dros 600 kg o fwyd rhwng Ionawr a Mehefin! Mae cyfrannu tunnell o fwyd eleni'n gwbl bosibl! Nid o ddewis y bydd pobl yn troi at fanciau bwyd. Mae'r galw'n parhau. Daliwn ati i ddal ati i gyfrannu. Diolch yn fawr!