Yn Alice’s Adventures in Wonderland, Lewis Carroll (1832-98) mae Alice yn gofyn i’r gath-gwenu-fel-giât am gyfarwyddiadau: "A fuasech ddigon caredig, os gwelwch yn dda, i ddweud wrtha’i pa ffordd i fynd o fan hyn?" "O!", meddai’r gath ... neu efallai, "meO!w, mae hynny’n dibynnu’n llwyr ar ble hoffech chi gyrraedd o fan hyn." "Does fawr o ots gen i ble dwi’n mynd", atebodd Alice braidd yn fyrbwyll. "Felly", meddai’r gath, "does dim ots pa ffordd ewch chi."
Rhyfedd pa mor berthnasol gall sgwrs ddychmygol rhwng merch fach â chath fod! Mae gan y sgwrs fach honno rywbeth i ddweud wrthym heddiw, pobl Cymru; heb anghofio’r Alban (etholiadau Senedd yr Alban) a Gogledd Iwerddon (Cynulliad Gogledd Iwerddon). Mae etholiadau lleol heddiw yn Lloegr; heb anghofio etholiadau Cynulliad Llundain. Heddiw, etholir Maer Llundain, Bryste, Lerpwl a Salford, a hefyd Comisiynwyr Heddlu a Thrais, Cymru a Lloegr.
Mae’r tamaid hwn o sgwrs rhwng cath a merch hefyd yn berthnasol i reolwyr Tata Steel; i bobl yr UDA, â Donald Trump fel ymgeisydd tebygol i herio Hillary Clinton ym mis Tachwedd. Gellid sôn hefyd am Sbaen, a’r Brenin Felipe wedi gorfod diddymu’r Senedd cyn cynnal etholiad newydd ar 26 Mehefin. Ond ... gellid cyfeirio at gant a mil o sefyllfaoedd, a’r sgwrs fach hon yn berthnasol i bob un.
Os na wyddom i ble ‘rydym am gyrraedd, ac at beth yr anelwn, cwbl ofer yw gofyn am gyfarwyddiadau. Os nad ydym yn poeni’r tamaid lleiaf am ble y cyrhaeddwn yn y pendraw, does dim ots o gwbl pa ffordd y mentrwn arni.
'I ble ydych chi'n mynd?' Maddeuwch y gofyn sydyn. Efallai, y dylid rhybuddio pobl cyn gofyn talp o gwestiwn mawr fel yna! 'I ble ydych chi'n mynd?' - I ble mae’ch bywyd chi’n mynd? Beth sy’n tynnu chi o’r gwely bob bore? Be’ sy’n gyrru chi ‘mlaen bob dydd, o ddydd i ddydd? Rywbeth?
Mi welais damaid o ddoethineb ar ddrws oergell cyfaill i mi'r dydd o’r blaen: When you aim at nothing, you will hit it every time. Dyna ni, dyna fu, dim ond hanner darllen, a chwarter meddwl am y geiriau. Ond, wrth hel meddyliau, daeth arwyddocâd y geiriau’n amlwg - eu harwyddocâd i ni heddiw; ac yfory, trennydd a thradwy.
(OLlE)