Dydd Sul bydd ein Gweinidog y parhau â’r gyfres o bregethau ‘Pobl y Testament Newydd’. Hyd yn hyn: Nathanael a Philip; Paul, Silas a Timotheus yn Thesalonica; yr ardderchocaf Theoffilus; Eutychus y cysgadur; Joseff a elwir Barnabas; Phebe, Ffelix, Silas, Apolos; Gaius, Diotreffes a Demetrius; Cornelius a Pedr a Paul gerbron Agripa. Testun ein sylw bore Sul (10:30) fydd Epaffroditus. Ni cheir dim o hanes y dyn ond yr hyn a gawn gan Paul yn ei lythyr at y Philipiaid (2:25-30 a 4:18). Gellid awgrymu ar sail yr adnodau hyn mai nodweddion cymeriad Epaffroditus oedd (1) Ffyddlondeb; (2) Brawdgarwch; (3) Gweithgarwch; (4) Dewrder; (5) Anwyldeb ac yn olaf (6) Gwladgarwch.
Testun ‘Myfyrdod Pantycelyn’ bore Sul fydd 314, gan ganolbwyntio ar y cwpled:
O! gariad rhad, O! gariad drud,
sydd fil o weithiau’n fwy na’r byd.
Y cwpled hwn fydd echel y Sgwrs Plant, a dilynir yr un trywydd gan yr Ysgol Sul. Mali fydd yn arwain ein defosiwn a mawr ein diolch iddi. Thema adnodau’r oedolion yw Cariad.
Liw nos, yn yr Oedfa Hwyrol (18:00) Epaffras fydd testun ein sylw. Heb amheuaeth, ‘roedd Epaffras ymhlith y gorau o gyd-weithwyr Paul. Ceir dim ond tri chyfeiriad at Epaffras yn y Testament Newydd, ond mae pob un cyfeiriad yn canu ei glod (Colosiaid 1:7; 4:12 a Philemon 1:23). Mae ystyried yr adnodau hyn yn ysbrydoliaeth ac yn her. Tri phen sydd i’r bregeth: (1) Cenhadwr; (2) Carcharor; (3) Caethwas. ‘Roedd Epaffras ymhlith caethweision Crist. Lloriwyd ef gan gariad Crist. Dygwyd ef yn gaeth gan ei gariad mawr. Gwyddai am y caethiwed sy’n rhyddid perffaith, ac am yr ymgysegriad sy’n arwain at fywyd ystyrlon a gogoneddus.
728 fydd testun ‘Myfyrdod Pantycelyn’ nos Sul:
Gosod babell yng ngwlad Gosen,
tyred, Arglwydd, yno'th hun,
disgyn o'r uchelder golau,
gwna dy drigfan gyda dyn;
trig yn Seion, aros yno,
lle mae'r llwythau'n d'od ynghyd,
byth na 'mad oddi wrth dy bobol
nes yn ulw'r elo'r byd.
Cynhelir cyfres o fyfyrdodau dros gyfnod y Grawys dan nawdd Cyngor Eglwysi Cymraeg Caerdydd. Y Parchedig Athro Thomas Watkin fydd yn arwain y cyntaf o’r cyfarfodydd buddiol hyn, yn y Crwys (23/2; 19:30). Y thema fydd ‘Derbyn Crist’. Gweddïwn am wenau Duw ar waith a chenhadaeth Cyngor Eglwysi Cymraeg Caerdydd.