Salm 95
Yng nghyfnod yr Hen Destament ‘roedd brwdfrydedd gorfoleddus ym mhresenoldeb Duw, er nad oedd yn dderbyniol gan bawb, yn beth digon cyffredin. Cofiwn fel yr enynnodd Dafydd lid ei wraig trwy ddawnsio o flaen arch y cyfamod wrth iddo’i chludo i fyny i Jerwsalem. ... yr oedd Michal merch Saul yn edrych trwy’r ffenestr, a gwelodd y brenin Dafydd yn neidio ac yn dawnsio o flaen yr ARGLWYDD, a dirmygodd ef yn ei chalon (2 Samuel 6:16 BCN). Ond eithriad yw dirmyg Michal. Ar y cyfan, ‘roedd yr Israeliaid yn gwerthfawrogi brwdfrydedd crefyddol ac yn ei dderbyn fel rhan hanfodol o’u seremonïau.
Gwahoddiad yw’r salm hon, fel llawer salm arall, i’r gynulleidfa glodfori Duw a diolch iddo am ei ddaioni. Arwydd yw brwdfrydedd y bardd o wefr a chyfaredd gwir addoliad. Ond yng nghanol y gorfoledd clywir gair o rybudd: Peidiwch â chaledu’ch calonnau, fel yn Meriba, fel ar ddiwrnod Massa yn yr anialwch (Salm 95:8a BCN). Bydded gwrthryfel y tadau ar y ffordd o’r Aifft, a’r modd y cawsant eu cosbi gan Dduw, yn rhybudd i’r gynulleidfa.
Disgwylir i’r credadun, boed Iddew neu Gristion, garu Duw yn ogystal â’i addoli. Nid yw addoliad, pa mor frwdfrydig bynnag y bo, o unrhyw werth os nad yw’n mynd law yn llaw â moeseg a ffyddlondeb i air Duw.
(OLlE)