'Munud i Feddwl' ein Gweinidog
Ar ôl cael eu trechu gan fyddin Joshua, ffodd pum brenin yr Amoriaid ac ymguddio mewn ogof. Wedi iddo ddeall lle ‘roeddent yn cuddio, ‘roedd gan Joshua gyfle i ladd y pump yn y fan a'r lle. Penderfynodd yn hytrach i ohirio’r mater hwnnw hyd yr hwyr. Pam? Am fod ganddo ormod o bethau pwysicach i’w gwneud. ‘Roedd perygl i’r gwaith annymunol o ladd y brenhinoedd hyn gymryd lle cyfrifoldebau eraill. Felly, ei gyngor i filwyr ei fyddin oedd iddynt dreiglo meini mawrion ar geg yr ogof a gosod gwylwyr. Ond, nid oeddent hwy ei hunain i aros yno. ‘Roedd y fyddin i ganolbwyntio ar waith y dydd, sef erlid y gweddill o’u gelynion a’u trechu.
Daw’r stori o lyfr Joshua (10:15-21). Llyfr sydd yn drwm o ryfela ac yn drwch o ladd. Cydnabyddaf mai annymunol iawn yw’r cyd-destun, ond bu’r pum brenin yn yr ogof yn gyson ar fy meddwl ers dechrau’r wythnos. Rhywbryd neu’i gilydd fe ddaw pawb ohonom wyneb yn wyneb â’r pum brenin yn yr ogof! Â’n bywyd dan gwmwl: cawn ein poeni gan ofidiau ac anawsterau; ofnau ac amheuon - pethau real. Ein dewis wedyn yw un ai aros gyda’r pethau hyn, mynd i’w canol, ac o bosib felly golli golwg ar fendithion, cyfleoedd a phosibiliadau bywyd - y pethau hyn hefyd yn real. Weithiau, rhaid gadael y pum brenin yn yr ogof.
Cofiwn y disgyblion gael eu poeni pan welsant y dyn oedd yn ddall o’i enedigaeth. ‘Rabbi’, meddent wrtho mewn penbleth. ‘pwy bechodd, ai hwn ynteu ei rieni, i beri iddo gael ei eni’n ddall (Ioan 9:2)? Ateb Iesu oedd, ‘Wnawn ni ddim ymboeni am hynny nawr; ond gadewch inni fynd i weld beth fedrwn ei wneud i’w helpu.’ Gadwyd y pum brenin yn yr ogof ag Iesu canolbwyntio ar waith y dydd: ymateb i’r anghenus. Gofynnwyd rywdro i William Booth (1829-1912), sylfaenydd Byddin yr Iachawdwriaeth, sut ydoedd yn ymateb i’r adnodau lletchwith a’r mynych wrthddywediadau a geir yn y Beibl. ‘I mi’, meddai, ‘y mae darllen y Beibl fel bwyta pysgodyn. Pan ddof o hyd i asgwrn byddaf yn ei godi a’i osod ar ochr y plât a mynd ymlaen i chwilio am fwy o gig’.
Un o gyfrinachau bywyd yw gwybod beth i’w wneud â’n hanawsterau a gofidiau. Gofalwn beidio â’i defnyddio yn esgus/rheswm i laesu dwylo a digalonni. Peidiwn ganolbwyntio ar yr esgyrn gan anghofio’r cig! Weithiau nid y pum brenin sydd wir yn bwysig. Er mor waedlyd yr hanes, ceir yma gyngor doeth a da - cyngor gwerth ystyried am funud heddiw: Pentyrrwch feini mawrion ar geg yr ogof, a gosodwch ddynion i’w gwylio. Peidiwch chithau â sefyllian ... (Joshua 10:18,19a BCN).
(OLlE)