... edrych , aeth y gaeaf heibio,
Ciliodd y glaw a darfu ...
(Caniad Solomon 2:11 BCN)
Adfywiad yn y byd naturiol yw gwanwyn, ac mae’n arwyddlun o obaith, ac ni all berson fyw heb obaith. Meddai’r ddihareb Saesneg: Where there’s life there’s hope, ond mynnai’r pregethwr Harry Emerson Fosdick (1878-1969) mae dyma’r gwirionedd: Where there’s hope, there’s life.
Saif Gobaith yng nghanol triawd mawr arhosol cân Paul i gariad, gyda Ffydd. Mae’r mwyaf ohonynt, Cariad yn dioddef pob dim, yn credu pob dim, yn gobeithio pob dim ...
Beth yw’r gwahaniaeth rhwng Ffydd a Gobaith? Ymddiried mae Ffydd; disgwyl mae Gobaith. Bod yn sicr bod Duw yw Ffydd. Bod yn sicr y cawn brofi o’i fendith a’r arweiniad yw Gobaith. Yng nghanol anobaith y byd, boed i ni mewn ffydd gadw ein golwg ar Gariad Duw, gobaith byd.
Benthycwn brofiad Paul yn sbardun i fyfyrdod pellach a gweddi:
Na thristaoch megis eraill, y rhain nid oes ganddynt obaith (1 Thesaloniaid 4:13 WM) Amen.
(OLlE)