'DEUGAIN A DEG' - TYMOR Y PASG (8)

‘Christ’ Jacob Epstein (1880-1959)

‘Christ’ (1917-19) Jacob Epstein (1880-1959) Oriel Genedlaethol Celfyddyd Fodern, Caeredin.

‘Christ’ (1917-19) Jacob Epstein (1880-1959) Oriel Genedlaethol Celfyddyd Fodern, Caeredin.

Gan hepgor y portread traddodiadol, derbyniol o Grist, mynnai Epstein rhoi wyneb dynol, cyffredin - go iawn - i’r Crist hwn. Gwnaethpwyd 'cast' o wyneb cyfaill i Epstein. Wyneb cyfaill yn ei wendid a’i ddolur, a hwnnw’n ddifrifol wael yw wyneb 'Christ'.

Gad imi weld dy ŵyneb-pryd

yng ngwedd y llesg a’r gwael ...

(E.A.Dingley 1860-1948 cyf. Nantlais, 1874-1959; CFf.:805)

Cwblhawyd ‘Christ’ yn 1919. Negyddol iawn bu’r ymateb i gerflun Epstein! Mynnai’r beirniaid nad fel yma dylai Crist edrych! Crist caled oedd hwn. Dengys ei glwyf nid mewn buddugoliaeth, ond mewn barn! Onid cysur a chynhaliaeth oedd angen yn 1919?

‘Roedd Epstein yn ddiedifar. Yn ei hunangofiant a ‘sgrifennwyd yn 1940, esboniodd bwriad a neges y cerflun ‘Christ’: My statue of Christ still stands for what I intended it to be. It stands and accuses the world of its grossness, inhumanity, cruelty and beastliness, for the World War and for the new wars in Abyssinia, China, Spain and now our new Great War.

Er treigl canrif bron, erys her y Crist talsyth cadarn hwn.

... dyro weled, drwy dy ras,

ryfeddol wawr yr oes

pan fydd gelynion daear oll

yn ffrindiau wrth y groes.

(R. Gwilym Hughes, 1910-97; CFf. 806)

F’Arglwydd Iesu Grist, fab Duw, Waredwr, bydd drugarog wrthyf. Amen.

(OLlE)