Ffydd a’i Phobl (6) (Hebreaid 11) - Barac, Samson a Jefftha
... adrodd yn fanwl hanes Gideon, Barac, Samson, Jefftha ... (Hebreaid 11:32) Cymeriadau allweddol o Lyfr y Barnwyr; y pedwar yn nodedig am frwydro yn erbyn gelynion cryfion. Arweiniwyd Israel i Ganaan gan Josua; hawliwyd rhan helaeth o’r wlad. Mewn ambell fan daliodd y Canaaneaid eu tir (Barnwyr 1:27). Cyn marw dywed Josua: os gwrthgiliwch ... gallwch fod yn sicr na fydd yr Arglwydd eich Duw yn parhau i yrru’r cenhedloedd hyn allan o’ch blaen. Yn hytrach byddant yn fagl ..., nes byddwch wedi’ch difa o’r wlad dda hon a roddodd yr Arglwydd eich Duw i chwi! (Josua 23:13). Wedi marw Josua cododd cenhedlaeth arall ar eu hôl, nad oedd yn adnabod yr Arglwydd (Barnwyr 2:10). Er ennill tir, dechreuodd Israel golli ei henaid a gwneud yr hyn oedd yn ddrwg yng ngolwg yr Arglwydd (Barnwyr 2:11). Anfonwyd atynt Farnwyr i ddangos ffordd yn ôl at Dduw! Onid tebyg ein sefyllfa yn 2016? Mynnodd Iesu fod yn ffordd. Er mor bwysig yw sôn am y ffordd, ofer y cyfan heb fod yn ffordd i eraill. Ffyrdd ydym sy’n arwain at y Ffordd. Amlygir gwerth y Bywyd trwy ein byw a’n bod. Mynegir y Gwirionedd yng nghywirdeb a gonestrwydd ein hymwneud â’n gilydd.
Amherffaith oedd Barac. Cafodd Debora, un o’r Barnwyr, orchymyn gan Dduw i ymosod ar fyddin Sisera. Barac oedd i arwain. Ei ymateb i Debora? Os doi di gyda mi, yna mi af; ac os na ddoi di gyda mi, nid af (Barnwyr 4:8). Dim ond ufuddhau oedd angen i Barac ei wneud, ond ‘roedd ofn arno. Dos!, meddai Debora, ... dyma’r dydd y bydd yr Arglwydd yn rhoi Sisera yn dy law. Onid yw’r Arglwydd wedi mynd o’th flaen (Barnwyr 4:14). Aeth Duw o flaen Barac fel cawod o law. Gorlifodd Nant Cison, maes y gad; trodd llawr y dyffryn yn wlypdir, ac i’w ganol daeth Sisera a’i fyddin. Barac a orfu. Beth yw ffydd? Mentro mewn ffydd heb fod â ffydd i’w fentro!
Cysylltir Jefftha â chamgymeriad erchyll. Tyngodd lw i Dduw: Os rhoi di’r Ammoniaid yn fy llaw, beth bynnag a ddaw allan o ddrws fy nhŷ ... bydd yn eiddo i’r Arglwydd, ac offrymaf ef yn boethoffrwm (Barnwyr 11:30,31) Cafwyd buddugoliaeth. Aeth Jefftha adref, a daeth ei ferch i’w gyfarfod. Lladdwyd hi. Yr oedd Jefftha yn ŵr dewr ... Gilead oedd ei dad. Yr oedd gan wraig Gilead hefyd feibion ... gyrasant Jefftha allan ... "Ni chei di etifeddiaeth yn nhŷ ein tad, oherwydd mab i estron wyt ti." Ciliodd Jefftha oddi wrth ei frodyr ... (Barnwyr 11:1-4) ʼRoedd yr Ammoniaid yn fygythiad i Israel. Rhaid oedd arwain byddin yn ei herbyn. Aeth henuriaid Israel i gyrchu Jefftha a gofyn iddo fod yn arweinydd. Hawdd byddai wedi bod i Jefftha wrthod. Dyma’r bobl a’i gyrrodd allan. Ufuddhau a wnaeth, gan ymroi i’r gwaith o erlid gelyn. Daeth buddugoliaeth. Chwalwyd gelyn ac adferwyd perthynas a hynny trwy gyfrwng yr hwn a wrthodwyd. Safodd Jefftha yn y bwlch. Beth yw cyfraniad Jefftha i’r ateb a geisiwn? Ffydd yw sefyll yn y bwlch!
Gŵr cryf gwan oedd Samson. Trwy ddrygioni Delila fe’i gwnaed yn garcharor dall yn Gasa. ... dechreuodd ei wallt dyfu eto (Barnwyr 16:22). Arweiniwyd Samson i deml Dagon; yng nghanol y miri galwodd Samson ar ei Dduw, gwthiodd â’i holl nerth a chwympodd teml Dagon. Ffydd yw codi uwchlaw amgylchiadau anodd bywyd. Gall bywyd eillio ein ffydd. Teimlwn, o’r herwydd, fod bywyd o ddim gwerth. Pechaduriaid ydym, yn dioddef oherwydd ein pechod ein hunain a phechodau eraill. Plant Duw ydym; ynom mae’r gallu i godi’n uwch na’n hamgylchiadau ac annibendod bywyd. Wrth fynd, trwy ffydd, i ddannedd yr annibendod cawn brofi agosrwydd rhyfedd Crist a grym ei gariad. Annog Samson ni at hyn: ennill buddugoliaeth drosom ein hunain. ʼRoedd buddugoliaeth Samson dros ei amgylchiadau yn ddibynnol ar ei fuddugoliaeth drosto ef ei hun. Sylweddolodd Samson fod yn rhaid iddo ymddiried nid mewn nerth bôn braich ond yn Nuw. Ffydd yw ildio ein hunain yn llwyr i Dduw.
Fe’n hatgoffir gan Barac mai mentro mewn ffydd yw ffydd. Mae bywyd Jefftha yn amlygu mai sefyll y bwlch yw ffydd. Dangos Samson mai codi uwchlaw amgylchiadau anodd bywyd yw ffydd; ennill buddugoliaeth drosom ein hunain.