NEWYDDION Y SUL

Thema’r Oedfa Deulu heddiw oedd y rhif ‘8’. Beth tybed oedd trywydd y Gweinidog? Noa a’i wraig, a’i dri mab a’u gwragedd efallai? Na. Meibion Jesse felly! Beth oedd enw’r wythfed? Dafydd. Na. Wedi wyth niwrnod y daeth Iesu at ei ddisgyblion i’r ystafell a’r drysau ynghau, a lefarodd dangnefedd yn eu plith: ai hyn oedd testun ein sylw heddiw? Na.

Wedi derbyn adnodau gan yr oedolion (y thema heddiw oedd 'Maddeuant'), cafodd Gwen gyfle i’n harwain mewn defosiwn. Wedi darllen hanes Iesu'n ymddangos i'r saith disgybl (Ioan 21:1-14) offrymwyd y weddi fach gyfoethog hon ganddi:

Diolch i Ti Dduw am ein cofio ni i gyd.

Diolch am flodau hardd ac am gân yr adar.

Diolch i Ti am olau'r haul, y sêr, a'r lloer.

Cofia Di am y rhai sy'n dioddef newyn a phoen.

Cofia am y plant sydd heddiw heb ddim bwyd na chartref clyd.

'Am ofal tyner dros bob un

rhown ddiolch nawr i Dduw

cans iddo Ef mae'r clod a'r mawl

mor llawn o gariad yw.' AMEN!!

Sylwch ar yr 'AMEN'. Da yw'r ddau ebychnod! Da yw'r Amen positif, cadarnhaol hyderus hwn.

Man cychwyn ein Gweinidog oedd dangos y rhif ‘8’, a’i droi’n sydyn ar ei ochr a dyma'r Ddolen Ddiddiwedd:

 

Y Ddolen Ddiddiwedd

Y Ddolen Ddiddiwedd

Dyma, esboniodd Owain Llyr yw'r symbol mathemategol am anfeidredd neu infinity. Bu tipyn o drafod dros baned ar derfyn yr oedfa am y gair 'anfeidredd'! Awgrymwyd yn hytrach 'annherfynoldeb'; 'anherfynedd' a hyd yn oed 'di-ben-drawdod'!

Beth yw Infinity? Anfeidredd? Mae'r Ddolen Ddiwedd yn awgrymu mai mynd ymlaen ac ymlaen ac ymlaen am byth, heb ddechrau na diwedd, ymlaen ac ymlaen ac ymlaen am byth, heb ddechrau na diwedd, ymlaen ac ymlaen ac ymlaen am byth! (Cafodd y plant hwyl yn ymuno gyda'r gweinidog gyda'r 'ymlaen ac ymlaen ac ymlaen'!) Mae Cariad Duw yn mynd ymlaen ac ymlaen am byth. Canrifoedd cyn geni Iesu, bu'r Salmydd yn canu: ... da yw’r ARGLWYDD; y mae ei gariad hyd byth ... (Salm 100:5a BCN). Meddai Iesu wrth ei ddisgyblion: ... yr wyf gyda chwi bob amser hyd ddiwedd y byd (Mathew 28:20 BCN).

Gan symud ymlaen, soniodd y Gweinidog am y cwlwm o’r enw ‘Figure of Eight’. ‘Roedd wedi paratoi llun ohono; a bu Shani'n ddigon caredig, rhag blaen i glymu'r cwlwm iddo.

Esboniodd y Gweinidog fod cariad Duw - cariad heb ddechrau na diwedd, cariad yn mynd ymlaen ac ymlaen ac ymlaen ac ymlaen yn ein clymu, o'r ieuengaf i'r hynaf, yn  UN..

Clyma ni’n un, O Dduw,

clyma ni’n un, Dad,

â chwlwm na ellir ei ddatod:

clyma ni’n un, O Dduw,

clyma ni’n un, Dad,

clyma ni’n un ynot ti.

(Bob Gillman (Bind us together);

Cyfieithiad Cymraeg Awdurdodedig: Catrin Alun.

Hawlfraint © 1977 Kingsway’s Thankyou Music; CFf.:626)

Gan symud yn ei flaen, gofynnodd Owain i'r gynulleidfa os oedd rhywun yn gwybod sut mae pobl yn Tsiena yn sgwennu'r rhif ‘8’? 'Doedd neb yn gwybod! Fel hyn, mae'n debyg:

Gan adleisio'r gofyn i'r gynulleidfa heddiw'r bore, a yw'r uchod yn ein hatgoffa chi o rywbeth tybed? Wedi iddo dynnu llun o gwmpas yr ‘8' Tsieinëeg, gwelwyd y Ddwy law yn erfyn!

Cawsom gyfle i weddïo gyda’n gilydd. Wedi anfon y plant a’r plantos yn ôl i eistedd gyda gweddill yr eglwys, camodd Owain Llyr i dir dieithr iawn! Y maes chwarae! Pêl-droed. Soniodd am leoliad y gwahanol chwaraewyr, gan nodi un yn arbennig - rhif ‘8’. Y Canolwr.

Awgrymodd fod Iesu’n Ganolwr: Oherwydd lle mae dau neu dri wedi dod ynghyd yn fy enw i, yr wyf yno yn eu canol (Mathew 18:20 BCN).

Weithiau, meddai, try’r adnod hon yn fwy o gwestiwn nag o osodiad: yr wyf yno yn eu canol?? Ti a minnau a’n tebyg, yn ffôl, gwan, gwamal fel ag yr ydym, a’n crefydd fach bigog ni: yr wyf yno yn eu canol?? Dirwasgiad, diweithdra, rhyfel a therfysg; newyn a phoen, difaterwch, difrawder: yr wyf yno yn eu canol??

Y Sul-pen-mis hwn, anogwyd ni i gofio cofio nad oes gofynnod yn perthyn i bresenoldeb Crist! Daeth Crist i’n plith! ... yr wyf yno yn eu canol! Gyda ni yng nghymhlethdod ac annibendod byw; gyda ni yng nghanol holl broblemau dyrys ein byd: ... yr wyf yno yn eu canol. Heddiw, yng nghanol ein llafur a’n lludded, yr helynt a’r helbul, yr hwyl a’r miri i gyd: ... yr wyf yno yn eu canol! Hwn yw ein gwaredwr. Dim gofynnod, ond ebychnod tragwyddol: yr wyf yno yn eu canol!

Yng nghanol byd y dolur, - yr angen,

A’r ingoedd didostur,

Y mae i’w gael falm i gur,

A Cheidwad i bechadur.

(Roger Jones Talybont)

Wedi ymdawelu cawsom gyfle i gydymdeimlo â’r galarus yn ein plith, a chofio’r aelodau hynny sy’n methu a bod gyda ni, gan bellter ffordd, cystudd neu henaint.

Er nad yw plant yn cymuno yn eglwys Minny Street, mae’n fwriad gennym fod y plant a’r plantos yn dysgu beth yw arwyddocâd a gwerth y ddefod hon. I wneud hynny, rhaid iddynt ddeall beth sydd yn digwydd, ac o’r herwydd symleiddiwyd yr eirfa ac addaswyd y delweddau’r mymryn lleiaf i gynnwys, ac o’r herwydd i addysgu a pharatoi’r ifanc yn ein plith.

Braf iawn oedd gweld Daniel, Gruff, Sioned, Enlli a Huw adref yn ôl - dymunwn yn dda iddynt wrth ddychwelyd i’w astudiaethau a’i gwaith. Cawsom hefyd ymweliad gan ein cyfeillion o Benrhys: Hannah a Seren fach; Miara (o Fadagascar), Rebecca a'i brawd (o Mizoram). Hyfryd oedd cael eu cwmni wrth addoli’r Arglwydd heddiw - boed bendith weinidogaeth Eglwys Llanfair, Penrhys.

Diolch am hwyl a her yr Oedfa Deulu. Edrychwn ymlaen at yr Oedfa Foreol Gynnar bore Sul nesaf (10/4) o dan arweiniad Dyfrig Parri.

Liw nos, cawsom gyfle i gydio o’r newydd yn y gyfres bregethau: Ffydd a’i Phobl - Hebreaid 11.

Yn yr unfed bennod ar ddeg o’r Llythyr at yr Hebreaid, mae’r awdur yn mynd i’r afael â’r cwestiwn oesol gyfoes, bythol newydd: ‘Beth yw ffydd?’ Sonnir ganddo am oddeutu un ar bymtheg o bobl ffydd. Awgrymu mae’r awdur fod bywyd yr un a’r bymtheg hyn, bob un gyda’i gilydd yn ateb y cwestiwn: ‘Beth yw ffydd?’ Mae pob un o’r un ar bymtheg yn llun bychan, a phob llun bychan yn creu un llun - y llun mawr. Byddwn yn mynd drwyddynt gyda’n gilydd eleni, fesul dau neu dri.

‘Rydym eisoes wedi hel meddyliau am Abel, Enoch a Noa; Abraham, Isaac, Jacob a Sara. Ym mis Tachwedd buom yn trafod Esau, Joseff, Amram a Jochebed, sef mam a thad Moses. Cawsom hoe fach dros gyfnod yr Adfent, ac ym mis Ionawr ailgydio gan ystyried Moses a merch Pharo - Bitheia. Ym Mis Chwefror Rahab a Gideon oedd testun ein sylw. Wedi hoe arall dros gyfnod y Grawys, heno cawsom gwmni Barac, Samson a Jefftha.

Beth, felly yw cyfraniad y pedwar hwn i’r ateb a geisiwn, ‘Beth yw ffydd?’

Beth yw cyfraniad Barac i’r ateb a geisiwn? Ffydd yn mentro mewn ffydd. Ffydd yw mentro mewn ffydd heb fod gennym ffydd i fentro! Gwnawn ein gorau! Gwnawn y gorau o’r ffydd, gyda’r ffydd sydd gennym. Mae gorau pobl Dduw yn drech na gwaethaf y gwaethaf ar eu gwaethaf! Pam? Sut? Duw. I fenthyg geiriau Paul yn ei lythyr ar yr Effesiaid, mae’r gallu ganddo i wneud yn anhraethol well na dim y gallwn ni ei ddeisyfu na'i ddychmygu, trwy'r gallu sydd ar waith ynom ni ... (3:20)

Ymlaen at Jefftha. Beth yw cyfraniad Jefftha i’r ateb a geisiwn? Ffydd yw sefyll yn y bwlch! Nid hawdd sefyll yn y blwch!

Dyma gyfraniad cyntaf Samson i’r ateb a geisiwn: Ffydd yw codi uwchlaw amgylchiadau anodd bywyd. Yr ail gyfraniad? Ffydd yw ennill buddugoliaeth drosom ein hunain. Roedd buddugoliaeth Samson dros ei amgylchiadau yn llwyr ddibynnol ar ei fuddugoliaeth drosto ef ei hun. Daeth gwir fawredd Samson i’r amlwg dim ond wrth iddo gydnabod ei fychander, pan sylweddolodd fod yn rhaid iddo ymddiried nid mewn nerth bôn braich ond yn Nuw.

Diolch am fendithion y Pasg Bach.