'DEUGAIN A DEG' - TYMOR Y PASG (9)

‘Resurrection’ gan Alma Woodsey Thomas (1891-1978)

‘Resurrection’ gan Alma Woodsey Thomas (1891-1978); 1600 Pennsylvania Avenue, Washington, UDA.

‘Resurrection’ gan Alma Woodsey Thomas (1891-1978); 1600 Pennsylvania Avenue, Washington, UDA.

Ganed Alma Woodsey Thomas yn Columbus, Georgia, UDA yn 1891. Yn 1907, mudodd y teulu i Washington er mwyn dianc rhag gwaethaf y rhagfarn hiliol a fu mor nodweddiadol o daleithiau’r de yn y cyfnod hwnnw. Dywed un bywgraffiad gan Brian Escamilla (1997): Thomas often recounted the story of her family about to cross the Potomac River: her parents suggested that Thomas and her sisters remove their shoes to knock off every last bit of the Georgia sand so they could begin their new life. Dyma ddarlun o’r Atgyfodiad: diosg y baw, croesi’r afon a bywyd newydd!

Echel ‘Resurrection’ Alma Thomas yw’r canol olau - nyni. O’n cwmpas mae talpau tywyll o bechod. Mae’r talpau du hyn yn gwasgu’n dynn amdanom, ond ... yn pwyso ar y du mae glas: dŵr, Rhoddaf fi i’r sychedig ddiod yn rhad o ffynnon dŵr y bywyd ... (Datguddiad 21:6); Pwy bynnag sy’n sychedig, deued ataf fi ac yfed ... (Ioan 7:37) a ... pwy bynnag sy’n yfed o’r dŵr a roddaf iddo, ni bydd arno syched byth (Ioan 4:14). Â bod pwysau’r dŵr heb fod yn ddigon, dyma binc y cnawd: ... daeth y gair yn gnawd a phreswylio yn ein plith, yn llawn gras a gwirionedd ... (Ioan 1:14), a choch gwaed: Hwn yw fy ngwaed i, gwaed y cyfamod, sy’n cael ei dywallt er mwyn llawer ... (Marc 14:24). A golau, trwch o olau; golau’n gwasgu mewn amdanom. Ni all y talpau du wrthsefyll y fath bwysau: Myfi yw Goleuni’r Byd (Ioan 8:12) sydd biau ni. Chwelir y cylch tywyll, ac fe’n hachubir: Atgyfodiad.

F’Arglwydd Iesu Grist, fab Duw, Waredwr, bydd drugarog wrthyf. Amen.

(OLlE)