'Wele, yr wyf yn sefyll wrth y drws ac yn curo (Datguddiad 3:20)' Iwan Dafis
'Wele, yr wyf yn sefyll wrth y drws ac yn curo (Datguddiad 3:20)' Iwan Dafis. 2008.
Celfyddyd wir! Mat llawr!
Cymerwch eiliad neu ddwy i edrych os gwelwch yn dda.
Darllenwch yr adnod yn dawel: Wele, yr wyf yn sefyll wrth y drws ac yn curo; os clyw rhywun fy llais ac agor y drws, dof i mewn ato a swperaf gydag ef, ac yntau gyda minnau.
Mae’r curo yn cyfleu’r syniad o frys a thaerni. Curo penderfynol, yn hawlio sylw ydyw. Eto, nid yw’n fwriad gan y Crist byw i dorri’r drws i lawr, a mynnu mynediad i’n byw a’n bod. Rhaid i ni agor y drws iddo. Ni fyn Crist Iesu oddi wrthym ond yr hyn ‘rydym yn barod i roi.
Beth yw neges mat llawr Iwan Dafis?
Efallai bod y neges yn dibynnu ar leoliad y mat!
Dychmygwch fod y mat hwn y tu fewn, wrth y drws. Er mwyn i chi fedru sychu’ch traed arno, rhaid bod y drws wedi ei agor, a bod yna wahoddiad wedi bod i ddod i mewn. A’i awgrymu mae’r arlunydd felly mai rhywbeth real, beunyddiol yw’r gofyn hwn am fynediad? Mae’r Crist byw yn curo wrth ddrws ein byw beunyddiol a’n bywyd go iawn; felly mater syml o agor y drws yw cael cwmni’r Crist Byw.
Ond, os mai wrth y drws y tu faes mae’r mat, gellid awgrymu rhywbeth cwbl wahanol, sef bod Iesu’n sefyll ar y mat ac yn curo, a’r drws heb ei agor. Does dim rhaid agor y drws, ac mae nifer fawr o bobl, yn cadw’r drws wedi’i gau. Gwell hynny, na’r hyn a wna cymaint ohonom - pobl grefyddol - sef agor y drws iddo, a’i gadw’n siarad ar stepen drws!
F’Arglwydd Iesu Grist, fab Duw, Waredwr, bydd drugarog wrthyf. Amen.
(OLlE)