'Doubting Thomas' Michael Duncan Smither (gan. 1939)
Doubting Thomas’ Michael Duncan Smither (gan.1939)
Mae dehongliad Michael Smither o gyfarfyddiad Thomas â’r Crist byw yn gignoeth a chaled. Mae Thomas yn mynnu cael archwilio’r dolur; tra bod y naill law yn byseddu dolur y goron ddrain, gwthir dau fys y llall yn ddwfn i’r clwyf yn ystlys Iesu. Mae’n anodd peidio gwingo wrth weld hyn. Sylwch yn ogystal, ar y diddordeb ysol yn llygaid Thomas. Nid chwilfrydedd mo hyn, ond anghenraid. Rhaid iddo gael gwybod - i sicrwydd sicr - mai Iesu yw hwn.
... dyma Iesu’n dod, a dweud wrthynt, ‘Tangnefedd i chi!’, a sylwch, yn syth: ... dangosodd ei ddwylo a’i ystlys iddynt (Ioan 20:20 BCN). Dengys ei glwyfau iddynt; cydnabyddir realiti’r dioddefaint. Mae’r neges ‘Tangnefedd i chi!’ yn gydiol wrth dangosodd ei glwyfau iddynt.
... dangosodd ei ddwylo a’i ystlys iddynt ... (Ioan 20:20)
Estyn dy fys yma. Edrych ar fy nwylo. Estyn dy law a'i rhoi yn fy ystlys ... (Ioan 20:27)
Nid yw Iesu’n esgus nad oedd artaith Calfaria’n real ... estyn dy law a’i rhoi yn fy ystlys ...
Mae’r clwyfau hyn yn real. Gan Grist clwyfedig cawn Dangnefedd. ‘Roedd yn rhaid i Thomas cael gweld y dolur a theimlo’r clwyfau cyn medru derbyn o Dangnefedd y Crist byw. Rhaid i ninnau hefyd gweld cyn credu. Heb weld a chydnabod y clwyfau cilia’r Tangnefedd. Heddiw ystyriwn hyn: mae gwir Dangnefedd - fel gwir ffydd - yn bosibl dim ond o weld a chydnabod y clwyfau: ein clwyfau personol, a chlwyfau pobl eraill; clwyfau’r eglwys leol a’r Eglwys Fawr; clwyfau cymuned, gwlad a byd.
F’Arglwydd Iesu Grist, fab Duw, Waredwr, bydd drugarog wrthyf. Amen.
(OLlE)