Ges i dröedigaeth ddydd Mercher - tröedigaeth o fath beth bynnag. Dwi’n hoffi gyrru; dwi’n hoffi gyrru yn y ddinas, yn arbennig felly, pan mae’r goleuadau traffig yn wyrdd bob un; a’r ffyrdd, bob un, yn glir o ... seiclwyr. Och! Seiclwyr araf, yn araf arafu llif y ceir. Oni wyddant, seiclwyr, fod rhywun pwysig - fel fi - ym mhob car, yn gorfod bod yn rhywle pwysig, i gyflawni rhyw bethau pwysig, a hynny pum munud yn ôl? Och! Seiclwyr!
Dwi’n hoffi gyrru, ond ... â’r tywydd mor braf (‘roedd yn rhaid wrth MOT hefyd, digwydd bod!), wedi hel y beic o’r sied, mentro gerfydd dwy olwyn o fan i fan, i hyn, llall ac arall, yn araf bach, a’m harafwch yn arafu pawb arall. Hwyr y pnawn oedd hi. ‘Roeddwn ymwybodol bod ‘na yrrwr ar binnau eisiau fy ngoddiweddyd, ac wedi methu sawl gwaith, o’r diwedd cafodd gyfle, ac ... wrth fynd heibio arafodd, agorodd y ffenest (wrth y llyw dyn, yn ei oed a’i amser, mewn crys a thei) a chydag argyhoeddiad mawr erfyniodd hwnnw arnaf i rywiol gyfathrachu ymaith!
Do, ges i dröedigaeth ddydd Mercher. Sylweddolais beth yw bod ar gefn beic yng nghanol llif o geir ar garlam; sylweddolais mor rhyfedd o ffôl yw ambell yrrwr car; ac o’r herwydd, sylweddolais fod angen i mi mymryn llai crintachlyd a llawer mwy gofalus pan fyddaf yn y car, â seiclwr o’m blaen yn araf arafu llif y ceir.
Ynglŷn â chymhwyso hyn i gyd yn ehangach, wel holed pob un ef ei hun ...
(OLlE)