'DEUGAIN A DEG' - TYMOR Y PASG (12)

‘Noli Me Tangere’ Nicolas Maureau (gan. 1969)

‘Noli Me Tangere’ Nicolas Maureau (gan. 1969)

‘Noli Me Tangere’ Nicolas Maureau (gan. 1969)

Meddai Iesu wrthi, "Mair". Troes hithau, ac meddai wrtho yn iaith yr Iddewon "Rabbwni" (hynny yw, Athro). Meddai Iesu wrthi, "Paid â glynu wrthyf, oherwydd nid wyf eto wedi esgyn at y Tad. (Ioan 20:16,17a BCN)

Sylwch yn syml sydyn ar dri pheth:

1. Nid yw Mair Magdalen yn y llun. Iesu sydd yma, dim ond Iesu.

2. Saif Iesu a’i gefn atom. Er mai ffocws ei sylw yw Mair, nid disylw mohonom ganddo; y mae’n ymwybodol ohonom.

3. Cwyd ei law dde i atal Mair; ond nid statig mo Iesu, ceir awgrym pendant yn osgo’r corff fod Iesu ar fin symud i’r chwith, gan adael Mair.

Oherwydd Pasg ein Harglwydd, mae pob peth - bron iawn - yn bosibl. Bellach, mae symud mynyddoedd yn bosibl; mae erlid ein hofnau i ffwrdd yn bosibl; mae caru ein gelynion yn bosibl; mae newid y byd yn bosibl. Mae pob peth - bron iawn - yn bosibl!

Bron iawn? Ie, bron iawn pob peth - mae un peth yn amhosibl. Mae glynu wrth Iesu, bellach yn gwbl amhosibl.

Wrth hepgor Mair o’r llun, daw anogaeth Iesu i Mair: Paid â glynu wrthyf ... (20:17a) yn anogaeth uniongyrchol i ni.

Mae Crist Iesu’n llawn sylweddoli mor real ei hawydd i lynu wrtho - ei gariad yn gynhaliaeth, a’i nerth yn hafan. Mae’r peth yn hollol naturiol. Er yn naturiol, nid llesol mor awydd hwn i gadw Iesu gyda ni, i ni. Un yn mynnu mynd ymhellach o hyd yw’r Crist Atgyfodedig. Dilyn Iesu a wnawn. Dilyn Iesu sydd raid. Peidiwn â glynu wrtho …

F’Arglwydd Iesu Grist, fab Duw, Waredwr, bydd drugarog wrthyf. Amen.

(OLlE)