'DEUGAIN A DEG' - TYMOR Y PASG (13)

'The White House', José Clemente Orozco (1883-1949)

'The White House', José Clemente Orozco (1883-1949)

'The White House', José Clemente Orozco (1883-1949)

Yn naturiol ddigon, Sul yr Atgyfodiad yw penllanw blwyddyn yr Eglwys Gristnogol, a dyma’r unig Sul yn y flwyddyn honno sydd yn cael ei threfnu yn ôl y lleuad.

Mae’r Pasg bob amser ar y Sul cyntaf ar ôl y lleuad lawn cyntaf ar ôl Alban Eilir, neu Gyhydnos y Gwanwyn. Diben y cyfan yw sicrhau fod y Pasg yn cyd-daro â bwrlwm byw'r gwanwyn. Mae’r holl beth yn gwbl synhwyrol. Dethlir yr Atgyfodiad pan mae gwyrth y deffro’n gyffro yn y pridd. Cefnlen y Pasg yw’r blagur sy’n glasu perth a llwyn; mynd a dod o dan y bondo; cynffonnau’r ŵyn bach yn ysgwyd ar frigau’r gollen a’r ddraenen ddu ar ei newydd wedd.

Mae’r cysylltiad yn un hapus, naturiol ddigon, ond ... camarweiniol. Mae’r Gwanwyn yn ddigwyddiad naturiol. Mae’r Atgyfodiad, ar y llaw arall, yn ddigwyddiad annaturiol - brawychus o annaturiol! Mae bedd llawn tywyllwch y meirw yn naturiol. Annaturiol yw bedd llawn o ddisgleirdeb byw bywyd anorchfygol! Mae chwilio am gorff Iesu o Nasareth a darganfod, yn hytrach, y Crist Atgyfodedig yn annaturiol! Mae pob peth bellach bendramwnwgl, tu chwith allan, a’i ben i waered! ‘Does dim syndod fod Efengyl Marc yn gorffen gyda’r geiriau: Daethant allan, a ffoi oddi wrth y bedd, oherwydd yr oeddent yn crynu o arswyd. Ac ni ddywedasant ddim wrth neb, oherwydd yr ofn arnynt (Marc 16:8 BCN).

Ceir mynegiant o’r arswyd hwn yng ngwaith José Clemente Orozco. Awgrymir gwefr yr Atgyfodiad drwy gyfrwng y goleuni sydd yn goleuo’r gwragedd a thalcen y tŷ. Amlygir dau beth gan y goleuni mawr hwn. Yn gyntaf, duwch y tywyllwch tu hwnt i’r drws agored. Yn ail, effaith ofn. Hagrir y gwragedd ganddo, ac fe drônt yn llai na dynol o’i herwydd.

Yr awdures Annie Dillard (gan. 1945), sydd yn cyfleu'r peth orau: God, I am sorry I ran from you. I am still running, running from that knowledge, that eye, that love from which there is no refuge. For you meant only love, and I felt only fear, and pain.

F’Arglwydd Iesu Grist, fab Duw, Waredwr, bydd drugarog wrthyf. Amen.

(OLlE)