If you want to know the truth, I can't even stand ministers. The ones they've had at every school I've gone to, they all have these Holy Joe voices when they start giving their sermons. God, I hate that. I don't see why the hell they can't talk in their natural voice. They sound so phony when they talk. Geiriau Holden Caulfield, o’r nofel The Catcher in the Rye gan J. D. Salinger (1919-2010). Mae Holden wedi llwyr syrffedi ar y phony Holy Joes; crefydd JC World: crefydda stoji, crefyddwyr doji.
Heb amheuaeth, mae elfen phony yn perthyn i grefydd; mae ein crefydda weithiau’n doji iawn! Ond nid crefydda a chrefydd yn unig sydd doji a phony. Gall pob math o ddaliadau fod yn doji. Beth bynnag bo’n rôl mewn bywyd mae’n ddychryn o hawdd bod yn phony: nid actio’r rôl o fod yn rhiant, yn gymar, yn gyfaill, yn gymydog mor nod, ond ei chyflawni.
Gonestrwydd cymeriad yw’r unig wir linyn mesur i berson, pwy bynnag, beth bynnag ydyw: ti, fi, ni, nhw. Ein Integrity neu ddiffyg Integrity yw calon y gwir amdanom.
Dwi’n gorffen gyda geiriau George Washington (1732-1799): I hope I shall possess firmness and virtue enough to maintain what I consider the most enviable af all titles, the character of an honest man.
(OLlE)