'DEUGAIN A DEG' - TYMOR Y PASG (7)

'La cocinera' neu ‘The Moorish Kitchen Maid with the Supper at Emmaus’ Diego Rodriguez de Silva y Velásquez (1599-1660)

‘The Moorish Kitchen Maid with the Supper at Emmaus’ Diego Rodriguez de Silva y Velásquez. (1599-1660) Art Institute of Chicago

‘The Moorish Kitchen Maid with the Supper at Emmaus’ Diego Rodriguez de Silva y Velásquez. (1599-1660) Art Institute of Chicago

Dyma sydd yn eithriadol ddiddorol am y llun hwn: nid un llun ydyw mewn gwirionedd, ond dau!

Y gair allweddol yw’r with yn nheitl y llun. Mae Velásquez yn cymysgu’r ysgrythurol a’r beunyddiol; cawn yr oesol a’r cyfoes yng nghwmni ei gilydd: ‘Kitchen Maid with the Supper at Emmaus’.

Wedi iddynt nesáu at y pentref yr oeddent ar eu ffordd iddi, cymerodd ef arno ei fod yn mynd ymhellach. Ond meddent wrtho, gan bwyso arno, "Aros gyda ni, oherwydd y mae hi’n nosi, a’r dydd yn dirwyn i ben." Yna aeth i mewn i aros gyda hwy. (Luc 24:28,29 BCN)

Cegin; morwyn, ac yn y cefndir Iesu: Wedi cymryd ei le wrth y bwrdd gyda hwy, cymerodd y bara a bendithio, a’i dorri a’i roi iddynt. Agorwyd eu llygaid hwy, ac adnabuasant ef. (Luc 24:30,31a BCN). Awgrymir fod rhywbeth yn cael ei ddweud a’i glywed. Mae’r forwyn groenddu yn gwrando ar beth sydd yn digwydd y tu ‘n ôl iddi. Mae hi’n clustfeinio ac yn clywed Iesu’n bendithio’r bara - yn bendithio ffrwyth ei llafur hithau.

Y forwyn hon fu’n pobi’r bara; hon aeth â’r bara gyda gweddill y bwyd i’r bwrdd. Mae hi nawr yn clywed y Crist byw a bendigedig yn diolch i Dduw am ffrwyth ei llafur hithau. Rhoddir urddas a gwerth tragwyddol i’w gwaith beunyddiol hithau a’u thebyg.

... byddwch yn gadarn a diysgog, yn helaeth bob amser yng ngwaith yr Arglwydd, gan eich bod yn gwybod nad yw eich llafur yn yr Arglwydd yn ofer. (1 Corinthiaid 15:58 BCN)

F’Arglwydd Iesu Grist, fab Duw, Waredwr, bydd drugarog wrthyf. Amen.