‘Iesu’n Ymddangos i’r Disgyblion’ Duccio di Buoninsegna (m. 1319)
‘Iesu’n Ymddangos i’r Disgyblion’ Duccio di Buoninsegna (m.1319)
Museo dell'Opera del Duomo, Siena
A dyma Iesu’n dod ac yn sefyll yn eu canol, ac yn dweud wrthynt, "Tangnefedd i chwi!". Wedi dweud hyn, dangosodd ei ddwylo a’i ystlys iddynt. Pan welsant yr Arglwydd, llawenychodd y disgyblion. Meddai wrthynt eilwaith, "Tangnefedd i chwi! Fel y mae’r Tad wedi fy anfon i, yr wyf fi hefyd yn eich anfon chwi." (Ioan 20:19b-21 BCN)
Yr eiliad honno a bortreadir gan Duccio di Buoninsegna. Cwyd pob un o’r disgyblion ei law fel arwydd o ryfeddod ac addoliad. Ar y bwrdd, dau bysgodyn a phum torth fechan.
A dyma un o’i ddisgyblion, Andreas, brawd Simon Pedr, yn dweud wrtho, "Y mae bachgen yma â phum torth haidd a dau bysgodyn ganddo ..." (Ioan 6:8,9 BCN)
Mae Porthi’r Pum Mil (Ioan 6:1-15) yn arwydd o allu a bwriad Crist fel ‘bara’r bywyd’ i ddiwallu ein holl anghenion.
Meddai Iesu wrthynt, "Myfi yw bara’r bywyd. Ni bydd eisiau bwyd byth ar y salw sy’n dod ataf fi, ac ni bydd syched byth ar y sawl sy’n credu ynof fi ..." (Ioan 6:35 BCN)
Gallasai’r pysgod hefyd fod yn gyfeiriad at Iesu’n Ymddangos i’r Saith Disgybl:
Wedi iddynt lanio, gwelsant dân golosg wedi ei wneud, a physgod arno, a bara ... Daeth Iesu atynt, a chymerodd y bara a’i roi iddynt, a’r pysgod yr un modd. Dyma, yn awr, y drydedd waith i Iesu ymddangos i’w ddisgyblion ar ôl iddo gael ei gyfodi oddi wrth y meirw. (Ioan 21: 9;13,14)
Efallai mai diben y pysgod yw ein hatgoffa o’r ‘pysgodyn’! ICHTHUS. Ichthus yw’r gair Groeg am bysgodyn: Iota, Chi, Theta, Upsilon a Sigma.
Iota (i): Iesous - Iesu
Chi (kh): Khristos - Crist
Theta (th): Theou - Duw
Upsilon (u): Huios - Mab
Sigma (s): Soter - Gwaredwr
Sylwer bod 11 disgybl o gwmpas y bwrdd. 10 ddylai fod; gan fod Thomas yn absennol; Jwdas bellach wedi marw, a dim ond ar ôl yr Esgyniad y daw Mathias i gylch dethol yr Apostolion (Actau 1:12-26).
F’Arglwydd Iesu Grist, fab Duw, Waredwr, bydd drugarog wrthyf. Amen.
(OLlE)