Noson lawog wyntog yma yng Nghaerdydd: noson 'aros-adre'-wrth-y-tân'! Ond, 'roedd pawb a fentrodd allan heno, yn falch iawn iddynt adael cynhesrwydd y tân er mwyn profi o wres y Gymdeithas. Dau o gymeriadau hoffus yr eglwys fu'n trafod 'Hen Gymeriadau'. Noson 'gwerth-dod-allan' iddi oedd hon. Diolch i Glyn, John Albert, ac i Rhiannon am gadw trefn.