Toc wedi saith yr hwyr, daeth Sioned, Sioned ac Annes. Mae'r ddwy Sioned yn gyfarwydd iawn â'i gilydd, ond mai Annes yn newydd i eglwys Minny Street. I ganol hwrli-bwrli y tŷ - mae 'plant y mans' wedi hen ddeall fod gan y Wedi7wyr stôr dda o wybodaeth a chyngor parthed gwaith cartref! Wedyn... i'r bwrdd. Mae un o'r tair hyn yn lysieuwraig, a thruan, darperir rhywbeth 'gwahanol' iddi bob tro, ond nid heno. Heno 'roedd pawb yn llysieuwyr: caserol ffacbys coch a ffa, bara cartref a chaws. Ofer pob bwyd da heb sgwrs dda, a bu'r sgwrs yn pendilio esmwyth o'r digrif i'r difrif: o Downton Abbey a'r Great British Bake Off i gadw'r Adfent fel disgyblaeth ysbrydol, a sut ellir diogelu gwir wefr y Nadolig yng nghanol prysurdeb llethol yr Ŵyl.
Wedi7? Pryd o fwyd. a gwledd o fendith.