Pan genir baban ymhell o flaen ei amser, gall rhythm y galon fach fod yn anghyson. Nid peth da mo hyn. Gan mor fychan y bychan, mae’r triniaethau arferol i unioni curiad y galon yn dra pheryglus. Beth ellir ei wneud felly? Mae meddygon wedi deall mae’r ateb yn aml iawn yw cysylltiad cnawd-wrth-gnawd, calon-wrth-galon gyda'r fam (neu'r tad); gall y fath gyswllt gryfhau ac unioni curiad calon y bychan.
Yr enw anffurfiol ar hyn o beth yw Kangaroo Care. Wrth ofalu am y newydd-anedig peth cyffredin ddigon yw gosod y bychan cnawd-wrth-gnawd gyda’r fam, a throi pen y bychan fel ei fod yn gallu clywed a theimlo curiad calon ei fam. Fe all ddigwydd wedyn, bod rhythm curiad cadarn calon y fam yn ‘cydio’ yn rhythm bregus calon y bychan, gan beri i’r ddwy galon guro mewn perffaith gynghanedd. Mae ymchwil yn amlygu fod Kangaroo Care hefyd yn gymorth i blentyn gysgu’n esmwyth, magu pwysau a nerth, reoli tymheredd ac anadl.
Yn ôl yn 1665, bu’r mathemategydd a’r ffisegydd Christopher Huygens (1629-1695) yn arbrofi gyda chlociau pendil. Gosododd nifer go sylweddol o glociau pendil mewn ‘stafell, gan osod pob pendil i symud ar wahanol amser a rhythm. Wrth iddo adael y ‘stafell, ‘roedd pob pendil yn symud yn annibynnol o’r gweddill. Pan ddychwelodd i’r ‘stafell y bore wedyn, roedd pob pendil yn symud mewn perffaith gytgord - pob pendil yn symud gyda'i gilydd. ‘Roedd pob un wedi ‘cydio’ yn rhythm y gweddill. Entrainment yw’r gair a ddefnyddir am hyn o beth.
Mae cysylltiad annatod rhwng Kangaroo Care a Entrainment, ac mae’r ddau fel ei gilydd yn ddelwedd dda am sut y dylem feddwl am y bywyd Cristnogol. Ein gwaith yw cael calon ein byw i guro mewn cytgord â chalon ewyllys Duw. Gwyddom am fendithion credu yn Nuw, ond dychmygwch pe baem ni yn gallu credu gyda Duw - bod mewn cytgord â’i ewyllys, mewn cynghanedd â’i deyrnas. Dychmygwch...
(OLlE)