Every bad situation is a blues song waiting to happen...
(Amy Winehouse 1983 -2011)
Bu sawl sefyllfa wael...gormod o lawer o sefyllfaoedd gwael. Hawdd ddigon felly, buasai canu a chyd-ganu’r blues. Nid y blues mo ffydd, ond jazz. Darfu’r blues gyda’r llef Gorffennwyd (Ioan 19:30). A phan gyflëir y gwirionedd hwnnw’n gywir a chlir, cawn ein donio â chlust i glywed jazz ffydd y tu hwnt i sŵn y blues beunyddiol.
 ninnau’n baglu o blues i blues, daw budd a bendith o ystyried cyfieithiad J. D. Vernon Lewis (1879-1970) o eiriau Frances R. Havergal (1836-79); geiriau sydd yn dangos dawn a gallu Duw i droi’r blues yn jazz:
Gwawr wedi hirnos, cân wedi loes,
Nerth wedi llesgedd, coron 'r ôl croes;
Chwerw dry'n felys, nos fydd yn ddydd,
Cartref 'r ôl crwydro, wylo ni bydd.
(CFf.:789)
Gyda’r geiriau, cofiwn yn dyner am y galarus ymhell ac agos, a chofiwn hefyd mai Gwawr wedi hirnos, cân wedi loes; jazz wedi’r blues yw hanfod ein ffydd.
Arglwydd, dyro eto glywed caneuon gwaredigaeth yn ein byd . Amen.
(OLlE)