Ar ôl hyn, amlygodd Iesu ei hun unwaith eto i’w ddisgyblion, ar lan Môr Tiberias...‘Dewch,’ meddai Iesu wrthynt, cymerwch frecwast.’...a chymerodd y bara a’i roi iddynt, a’r pysgod yr un modd. (Ioan 21:1,12,13)
Llun: Itay Bav-Lev
Tiberias...
Ie, bychan y cwmni ond bendith fawr â’r pedwar ohonom yn dechrau’r dydd mewn gweddi, myfyrdod a defosiwn. Ers dechrau mis Medi, buom yn dawel ystyried gweddïau’r Beibl. Yn y ‘Tiberias’ cyntaf (14/9) gweddi Abraham (Genesis 18:23-33) oedd testun ein sylw; gweddi Hanna (1 Samuel 1:9-18, 24-28) yn yr ail gyfarfod (12/10). Echel ein myfyrdod heddiw, oedd gweddi Solomon (1 Brenhinoedd 3:3-15).
Nodweddir diwedd teyrnasiad y brenin Solomon â dirywiad; ond ar y dechrau, prif nodwedd ei frenhiniaeth oedd bod Solomon wedi dewis ceisio a cheisio dewis ewyllys Duw yn safon i’w waith.
Gweddïodd Solomon am ddoethineb - nid am wybodaeth: ...rho i’th was galon ddeallus i arwain dy bobl, i ddirnad da a drwg...(1 Brenhinoedd 3:9). Nid gwybodaeth eang am y byd a’i bethau mo doethineb; mae doethineb yn cynnwys dimensiwn ysbrydol sy’n ymwneud â’n dyletswydd tuag at Dduw a’n cyd-ddyn.
Pobl Iesu ydym ni. Meddai Luc wrthym...yr oedd Iesu yn cynyddu mewn doethineb (2:52a). Un ohonom ydoedd, ond hefyd yn llawer amgenach; mynnai Paul mae gallu Duw a doethineb Duw mewn cnawd oedd Iesu Grist (1 Corinthiaid 1:24). Ei bobl ef ydym; yn byw mewn byd o newid cyson, sydyn ac ar brydiau...brawychus. Mae angen doethineb.
Dyma’r addewid i ninnau: ...os yw rhywun, meddai Iago, ohonoch yn ddiffygiol mewn doethineb, gofynned gan Dduw, ac fe’i rhoddir iddo oherwydd y mae Duw yn rhoi i bawb yn hael a heb ddannod (1:5)
Dechrau’r dydd; dechrau wythnos o waith, a rhaid wrth ddoethineb...
I arweinwyr y cenhedloedd a’r pwysau sydd arnynt i ymateb i ddigwyddiadau’r penwythnos...deisyfwn ddoethineb i arwain dy bobl, i ddirnad da a drwg...
 ninnau'r bore hwn, wedi myfyrio uwchben gweddi Solomon, edrychwn ymlaen at gyfle i drafod gweddi Dafydd (2 Samuel 7:18-29) yn ‘Capernaum’ nos Lun 23/11.