Wele, meddai Morgan Llwyd (1619-1659) dy waith cyntaf di yw distewi…
Dyna’n union a wnaethom, ar ddechrau ein hoedfa heddiw: distewi. Wrth ystyried yr hyn a ddigwyddodd ym Mharis, a chyn hynny yn Beirut a Baghdad, (heb anghofio’r sawl sydd yn dioddef yn sgil daeargryn a chorwynt yn Siapan a Mecsico), nid oes geiriau na delweddau cymwys i gael inni, felly ymdawelodd y gynulleidfa - tawelwch o ofid mawr a chydymdeimlad dwys. Try’r fath ddistawrwydd yn weddi, a’n gweddi'r bore hwn - o’r ieuengaf i’r hynaf - oedd i bobl Paris a Beirut, a phawb sy’n dioddef ym mhob man, ddarganfod gyda'i gilydd nerth i ddal ati i ddal ati. Ein gweddi drosom ein hunain? Er inni weld o ddydd i ddydd y drwg yn dirmygu ac yn melltithio ac yn sathru pob daioni dan draed, y gallwn gredu, ac annog eraill i gredu, na all holl dywyllwch byd, byth ddileu goleuni Duw.
Lili a William, efeilliaid, bu’n arwain ein defosiwn heddiw. Gan Lili cawsom ddarlleniad deallus, a pherthnasol:
Arglwydd, pryd y’th welsom di’n newynog a’th borthi, neu’n sychedig a rhoi diod i ti? A phryd y’th welsom di’n ddieithr a’th gymryd i’n cartref, neu’n noeth a rhoi dillad amdanat? Pryd y’th welsom di’n glaf neu yng ngharchar ac ymweld â thi? A bydd y Brenin yn eu hateb, ‘Yn wir, rwy’n dweud wrthych, yn gymaint ag ichwi ei wneud i un o’r lleiaf o’r rhain, fy mrodyr, i mi y gwnaethoch. (Mathew 25:37-41)
Arweiniwyd y weddi gan Will:
Ar ddechrau wythnos pan fydd teimladau’n rhedeg yn wyllt - dryswch, dicter, ofn, amheuaeth:
helpa ni, Grist y ffordd, i deithio ar y llwybr gyda thi.
Rho i ni Ysbryd anturiaeth fel y bydd, lle bo dryswch, trefn yn dod i’r golwg; lle bo dicter, cariad yn egino; lle bo ofn, tawelwch yn trechu; lle bo amheuaeth, ffydd yn ein calonnau eto. Amen.
Wedi derbyn adnodau'r plantos a’r plant - a’r dewis o adnodau heddiw yn amlygu effaith dwfn y digwyddiadau ym Mharis; nodir dim ond pedwar enghraifft: Duw cariad yw; Iesu a wylodd (yn y Gymraeg a Ffrangeg); Daw fy nghymorth oddi wrth yr Arglwydd, creawdwr nefoedd a daear; Y mae cariad yn goddef i’r eithaf, yn credu i’r eithaf, yn gobeithio i’r eithaf, yn dal ati i’r eithaf. Yng ngwawl yr adnodau rheini, parhau a wnaethom i ystyried arwyddocâd y rhif 3. Heddiw: Trindod y Tad, Mab ac Ysbryd Glân! Gofynnodd y Gweinidog i blantos a phlant y set fawr os oeddent yn deall athrawiaeth y Drindod. Tawelwch cegrwth. Gofynnodd i’r bobl ifanc a’r oedolion - ‘roedd pawb wedi lled ddisgwyl hyn! - oes oeddent yn deall yr athrawiaeth fawr a phwysig hon? Trodd nifer y plant i weld os oedd rhywun yn deall... ond ‘doedd neb yn barod i fentro! ‘Dim ots’, mynnai’r Gweinidog, ‘dim ots o gwbl!’ Pam ‘Dim ots’? ‘Dim ots’ gan fod neb yn deall. Mae rhai yn meddwl eu bod nhw’n deall, a rhai yn esgus ei bod nhw deall, ond does neb yn deall, gan fod deall y tu hwnt i bobl! Ond, gellid profi’r undod cariadus sydd yn Drindod, a mwynhau’r profiad! ‘Does dim rhaid i bob plentyn ddeall damcaniaeth erodynameg cyn dechrau dysgu reidio beic! Nid gwybod am Dduw sy’n bwysig, ond ei deimlo. Os oedd rhai o’r plantos yn dechrau dechrau colli diddordeb yn fath ddiwinyddiaeth, yn sydyn, ‘roeddent yn llawn diddordeb newydd, gan i’r Gweinidog ddechrau sôn am TWIX. Duw, Iesu a’r Ysbryd Glân, yr un yn dri, a’r tri yn un, jest fel TWIX. Tri pheth sydd mewn TWIX: caramel, siocled a bisged. Tri pheth ar wahân, ond gyda’i gilydd. Y ffordd orau o fwynhau TWIX yw nid meddwl amdano, a phoeni amdano, ond... ei fwynhau. Peidiwn â phoeni am yr un yn dri, a’r tri yn un! Does dim rhaid, dim ond ildio’n hunain i’r dirgelwch a mwynhau’r bendithion! Cafwyd addewid gan y Gweinidog bod TWIX bychan i bawb o’r bychain ar ddiwedd yr oedfa.
Symudodd y Gweinidog, yn sydyn o TWIX i sbageti. Sbageti sych. Yr her meddai yw torri darn o sbageti sych yn dwt a thaclus yn ddau ddarn. Mynnai’r Gweinidog fod hyn yn amhosibl - mae pob ac unrhyw ddarn o sbageti sych yn torri i fwy na dau ddarn! Honnai mai ffaith wyddonol ydoedd! Cynhaliwyd arbrawf yn y set fawr - sawl arbrawf yn wir - a’r plantos a phlant bob un yn cael cynnig arni: tri darn; pedwar darn; chwe darn (!); tri darn...ac ymlaen, a neb yn llwyddo i dorri’i darn sbageti yn lan yn ddwy. Rhowch gynnig arni eich hun. Cymerwch ddarn o sbageti sych. Daliwch y naill ben a’r llall o ddarn rhwng bys a bawd, a phlygu; bydd y sbageti bob amser yn torri yn dri neu ragor o ddarnau; byth yn ddau. A’r neges? Mae mwy nag un Drindod yng nghalon yr Efengyl. Dirgelwch mawr y tu hwnt i’n deall yw un, Trindod Tad a Mab ac Ysbryd Glân. Nid oes angen gofidio’n ormodol am y Drindod honno, ond i ni ofalu am barchu’r drindod arall - Duw, a fi, a ti. Cofiwch y sbageti! Fe dyr y darn yn dri neu ragor bob amser, byth yn ddau. Ni ellir cael ‘Fi’ a ‘Duw’ heb ‘Ti’. Nid oes, i mi, yr un llwybr at Dduw nad sydd arwain at gyd-ddyn.
Â’r casgliad rhydd heddiw tuag at waith y genhadaeth, offrymwyd gweddïau dros waith a gweinidogaeth CWM.
Aeth y plantos, plant a phobl ifanc i’w gwersi. Y triawd Ffydd, Gobaith a Chariad oedd y thema iddynt heddiw. Echel y gwersi oedd stori Daniel a'r ffau llewod (Daniel 6). Pwysleisiwyd pwysigrwydd dal yn dynn yn ein ffydd a sefyll gyda'n cyd-ddyn mewn gobaith a chariad. ‘Roedd y neges yn amlwg yn bwysig i'r plant, a hwythau'n gweld hi'n anodd - fel pawb ohonom - i wneud synnwyr o’r erchyllterau a welwyd ym Mharis a Beirut.
Un ymhlith y lleiaf o’r cwmni - Elian - gafodd y syniad o ysgrifennu neges yn Ffrangeg: Confiance; Esperer, Aimer . Oliver, un o’r PIMSwyr cafodd y syniad o drydar neges bersonol i’r Gweinidog gyda llun o’r gwaith a’r weddi ymhlyg ynddo.
Hyn oll, tra bod yr oedolion yn y capel yn gogwyddo eu meddwl at Dduw mewn gweddi, a’r weddi gynulleidfaol honno'n weddi tri phen: Liberté...égalité...fraternité.
Emyn oedd testun pregeth yr Oedfa Foreol. Emyn o eiddo J . G. Moelwyn Hughes (1866-1944). Yr emyn cyntaf iddo gyfansoddi, ac yntau’n ddeunaw oed.
Yn y pennill cyntaf, mynegir yr angen bethau da Duw:
Fy Nhad o’r Nef, O! gwrando’n ‘nghri,
Un o’th eiddilaf blant wyf fi:
O! clyw fy llef a thrugarha,
A dod i mi dy bethau da.
Yn yr ail bennill, mynegir gwerth y pethau da:
Nid ceisio’r wyf anrhydedd byd,
Nid gofyn wnaf am gyfoeth drud;
O! llwydda f’enaid, trugarha,
A dod i mi dy bethau da.
Yn y trydydd pennill, mae Moelwyn yn trafod pris y pethau da:
Fe all mai’r storom fawr ei grym
A ddaw â’r pethau gorau im;
Fe all mai drygau’r byd a wna
I’m henaid geisio’r pethau da.
Yn y pennill olaf mynegir ffrwyth y pethau da:
Ffynhonnell pob daioni sy,
O! dwg fi’n agos atat Ti.
Rho imi galon a barha
O hyd i garu’r pethau da.
Dyma uchafbwynt yr emyn. Er cystal y pethau da, bychan bach ydynt o’i gymharu â’r Peth, y Peth: Duw Cariad Yw. Achos pob ffydd, deunydd pob gobaith, hanfod pob cariad.
Erbyn diwedd yr emyn mae Moelwyn yn gofyn am Dduw ei hun. Caru Duw sydd yn arwain pobl at y pethau da, a’r pethau da sydd yn arwain pobl at Gariad Duw.
Efallai i chi anghofio’r TWIX. Nid oedd y bychain wedi anghofio! Yn ôl y daethant o’i gwersi, a diflannodd bob TWIX bach mewn fawr o dro!
Liw nos, parhau a wnaethom â’r gyfres o fyfyrdodau ‘Ffydd a’i Phobl’. Yn yr unfed bennod ar ddeg o’r Llythyr at yr Hebreaid, mae’r awdur yn mynd i’r afael â’r cwestiwn oesol gyfoes, bythol newydd: ‘Beth yw ffydd?’ Sonnir ganddo am un ar bymtheg o bobl ffydd. Awgrymu mae’r awdur fod bywyd yr un a’r bymtheg hyn, bob un gyda’i gilydd yn ateb y cwestiwn: ‘Beth yw ffydd?’ Mae pob un o’r un ar bymtheg yn lun bychan, a phob llun bychan yn creu un llun - y llun mawr. Mae'r Gweinidog yn ein tywys drwyddynt, fesul dri neu bedwar. ‘Rydym eisoes wedi hel meddyliau am Abel, Enoch a Noa; Abraham, Isaac, Jacob a Sara. Heno: Esau, Joseff a dechrau a’r Moses, gan ystyried ei fam a’i dad.
Mae gyrfa a bywyd Jacob yn fwy lliwgar ac amrywiol o lawer na bywyd Isaac ei dad. ‘Roedd ynddo gyfuniad rhyfedd o’r anianol a’r ysbrydol, y gwalch a’r sant. Ein man cychwyn heno oedd y stori amdano (Genesis 32:24-32) yn twyllo ei dad, Isaac, hen ŵr a oedd yn ddall, i ennill yr enedigaeth-fraint oddi ar ei frawd Esau. Siomwyd Isaac ac Esau, a ffydd yw dygymod â siom. Fe lyncodd Isaac ei siom, a dygymod ag effaith y twyll, gan weld Duw ar waith er waethaf y cyfan. Mae Isaac yn derbyn mai Jacob yn hytrach na’i frawd, Esau oedd dewis Duw. Siomwyd Esau ar yr aelwyd. Aelwyd yw’r eglwys leol, a siomir pobl arni, ynddi ac o’i herwydd. Ffydd yw dygymod â siom, gan dderbyn y rhwystredigaeth a ddaw o weld nad yw pawb yn cyd-weld â ni am beth sydd hanfodol bwysig!
Tynnwyd ni ymlaen at Joseff. Ar nodyn hyfryd o faddeuant a chymod y mae llyfr Genesis yn cloi. Pwysleisir y Rhagluniaeth ddoeth sy’n troi drwg fwriadau brodyr Joseff i ddaioni. Mae’n siŵr bod ambell adlais o brofiadau Joseff ym mhrofiad rhai o ddarllenwyr ‘Newyddion y Sul’. Bu bywyd ar adegau yn greulon; bu’n anodd credu yng nghariad Duw, cymylwyd ein ffydd dros dro. Efallai nad oes esboniad terfynol eto, dim ond credu, a mynnu credu, fod pob peth yn cydweithio er daioni i’r rhai sydd yn caru Duw.
Y mae’r cyfan a wyddom am Moses yn cyfleu portread o un o arwyr ffydd fwyaf yr oesau. Bu’n ffodus yn ei rieni Amram a Jochebed. Mewn amser o erledigaeth greulon yr oedd gofyn ffydd fawr i guddio eu baban yn yr hesg ar lan afon. Drwy ffydd ei rieni y cadwyd Moses yn fyw. Y mae llawer ohonom yn ddyledus i ffydd ein rhieni. Daw I’m cof, meddai Paul mewn llythyr at Timotheus, y ffydd ddiffuant sydd gennyt, ffydd a drigodd gynt yn Lois, dy nain, ac yn Eunice dy fam, a gwn yn sicr ei bod ynot tithau hefyd (2 Timotheus 1:5)
Cofia dy nain a welodd wawr
drwy drymaf len y tywyllwch mawr
pan waeddo’r amheuon, na wrando y rhain
ond cofia’r ffydd oedd ffydd dy nain.
Cofia dy fam, a’i phryder hi
yn oriau dy nosau anniddig di;
a chofia beunydd mai dy grud
oedd allor ei hieuenctid drud.
(W. J. Gruffudd; 1881-1954)
Ond ni all neb ohonom fyw ar ffydd ein hynafiaid heb ei meddu drosom ein hunain. Cafodd Moses hynny drwy brofiad gwefreiddiol. At hynny, y down wrth ail gydio yn y gyfres hon ym mis Ionawr.
Hoffem ddiolch i Undeb yr Annibynwyr Cymraeg am gopi o Beibl.net
Llongyfarchwn eglwys Regeneration (Enw da a'r gynulleidfa o bobl Dduw! Ef yn adfywio ei bobl, a hwythau o'r hewrydd yn adfywio cymuned a byd!) Essex www.regen.church a ddaeth yn y Premier Digital Awards neithiwr i'r brig yn y categori 'Most Engaging Small Church Website'. Cafodd y wefan hon ei henwebi a chyrraedd y rhestr fer.
Bydd Oedfaon y Sul nesaf dan arweiniad Dafydd Iwan (Caernarfon). Boed bendith. Ein braint fel eglwys, prynhawn Sul nesaf yw bod yn gyfrifol am de i’r digartref yn y Tabernacl, Yr Âis am 2:30