Ffydd a’i Phobl (3) (Hebreaid 11) - Esau, Joseff a Moses
Ym Mhennod 11 o’r Llythyr at yr Hebreaid, ceisir ateb y cwestiwn: Beth yw ffydd?
Trwy ffydd y bendithiodd Isaac Jacob ac Esau ar gyfer y pethau i ddod... (Hebreaid 11:20). Awyddus oedd Isaac i gyflwyno ei fendith i Esau, ei fab hynaf. Dymuniad Rebeca oedd ar i Jacob dderbyn y fendith. Dyna ddigwyddodd! Rhwygwyd yr aelwyd a bu rhaid i Jacob ffoi. Siomwyd Esau ac Isaac; ffydd yw dygymod â siom. Derbyniodd Isaac mai Jacob oedd dewis Duw. Bendithiodd Isaac Jacob ac Esau nid ar gyfer eu dyfodol agos, ond ar gyfer y pethau i ddod. Beth yw ffydd? Gweithio a chydweithio ar gyfer y pethau i ddod. Diolch am Bobl Ffydd a wnaeth eu gorau; gwnaethant gamgymeriadau, penderfyniadau byrbwyll a dewisiadau ffôl ond o hyn oll creodd Duw ni, ein cenhadaeth a’n gweinidogaeth. Gwnawn ninnau ein gorau, gan lyncu’r siom nad yw pethau yn gweithio bob amser; a derbyn y rhwystredigaeth o weld nad yw pawb yn cyd-weld â ni. Mae ein llwyddiannau a’n methiannau wedi eu plethu yng nghlytwaith ewyllys Duw. Heb fendith y cyntaf-anedig, ‘roedd bywyd Esau ar chwâl: ...cododd Esau ei lais ac wylo ... A chasaodd Esau Jacob o achos y fendith yr oedd ei dad wedi ei rhoi iddo... (Genesis 27: 38b a 41). Gwyddai’r ddau frawd bod cyfarfyddiad yn anochel. Pan ddigwyddodd: rhedodd Esau i’w gyfarfod, a’i gofleidio a rhoi ei freichiau am ei wddf a’i gusanu... (Genesis 33:4). Meddai Jacob wrth ei frawd: ...y mae gweld dy wyneb fel gweld wyneb Duw, gan dy fod wedi fy nerbyn (Genesis 33: 10). Siomwyd Esau yn ddirfawr ar ei aelwyd. Aelwyd yw’r eglwys leol, Weithiau siomir pobl ar yr aelwyd ond cadarnha ffydd mai’r hyn sy’n bwysig yw mai brodyr a chwiorydd ydym. Gwelodd a chafodd Jacob Duw yn Esau. Camp pob eglwys leol yw sicrhau bod ei bywyd a’i chenhadaeth yn debycach i driongl ‘Isaac, Jacob ac Esau’ nag i driongl Yr oedd dyn a chanddo ddau fab... (Luc 15:11a).
Trwy ffydd y bendithiodd Jacob ... bob un o feibion Joseff ... Trwy ffydd y soniodd Joseff, wrth farw, am Exodus plant Israel, a rhoi gorchymyn ynghylch ei esgyrn (Hebreaid 11:22). A chysgodion diwedd oes yn ymgasglu o gwmpas Jacob, dygir dau fab Joseff ato. Meddai, Ni feddyliais y cawn weld dy wyneb (Joseff) byth eto, a dyma Dduw wedi peri imi weld dy blant hefyd (Genesis 48:11). Cafodd Jacob fwy na’r disgwyl. ‘Roedd traddodi’r fendith wrth farw yn gydnabyddiaeth nad oedd yr addewidion wedi eu cyflawni ac yn fynegiant o’r hyder y byddid yn eu cyflawni yn y dyfodol. Ffydd yw trosglwyddo’r ffydd i’r genhedlaeth nesaf; trosglwyddo er mwyn i’r genhedlaeth nesaf gael ei had-drefnu a’i datblygu. Heb yr ail-gymysgu hwn ymsolido a darfod a wna ffydd. Rhaid hefyd trosglwyddo’r ffydd mewn ffydd! ...soniodd Joseff, wrth farw, am Exodus...a rhoi gorchymyn ynghylch ei esgyrn. Er llwyddiant yr Aifft, dymunai Joseff i’w esgyrn orwedd yng Ngwlad yr Addewid. Bu farw a chladdwyd ei weddillion...ond pan ddaeth yr amser i adael yr Aifft arweiniodd Duw hwy...Cymerodd Moses esgyrn Joseff gydag ef (Exodus 13: 18-19). Trosglwyddo ein ffydd mewn ffydd; gan wybod y bydd bob amser llaw yn estyn i dderbyn y ffydd honno gennym.
Trwy ffydd y cuddiwyd Moses ar ei enedigaeth am dri mis gan ei rieni... (Hebreaid 11:23). Mewn cyfnod o erlid, ‘roedd gofyn ffydd fawr ar Jochebed ac Amram, rhieni Moses, i guddio eu baban yn yr hesg ar lan afon. Mewn Iddewiaeth a Christnogaeth tystia’r Beibl fod y cynllun dwyfol i achub pobl wedi cychwyn gyda’r dibwys; yn aml, dyma sut y mae Duw yn gweithio. Ffydd yw ymddiried. Dyma brofiad Esau, Joseff, a Jochebed ac Amram; ymddiried yn Nuw, yn ei gariad a’i ofal. Trwy ddirgel ffyrdd mae’r uchel Iôr yn dwyn ei waith i ben... (William Cowper, 1731-1800. cyf. Lewis Edwards, 1809-87. C.Ff.: 66) Ymhlith y dirgel ffyrdd rheini mae’r ffaith ddiymwad fod Duw yn defnyddio ni i ddwyn ei waith i ben. Canys, meddai Paul, eiddo Duw ydym ni, fel cydweithwyr (1 Corinthiaid 3:9).
Beth yw ffydd?
Fe’n hatgoffir gan Isaac ac Esau mai dygymod â siom yw ffydd.
Amlyga Joseff mai ffydd yw trosglwyddo’r ffydd mewn ffydd.
Dangos Jochebed ac Amram mai ymddiried yw ffydd - ni’n ymddiried yn Nuw, a Duw yn ymddiried ynom ni.