Fy Nhad o’r nef, O! Gwrando ‘nghri...
(J G Moelwyn Hughes, 1866-1944; C.Ff. 691)
Moelwyn Hughes; mae ganddo lawer emyn, a phob un yn dda, ond mae un yn arbennig o dda. Testun ein sylw heddiw yw’r emyn arbennig hwnnw.
Fy Nhad o’r Nef, O! gwrando’n ‘nghri, un o’th eiddilaf blant wyf fi: O! clyw fy llef a thrugarha, a dod i mi dy bethau da. 18 mlwydd oed oedd Moelwyn Hughes pan gyfansoddodd yr emyn hwn. Gweddi ac ymbil personol am bethau da Duw ydyw. Onid personol popeth crefydd? Cychwyn gyda’r profiad personol, yr ymrwymiad personol, y ffydd bersonol, y gobaith a’r cariad personol. Crefydd bersonol i ddechrau, crefydd letach wedi ac oherwydd hynny. Awgryma Moelwyn ddau beth am ein perthynas â Duw. Yn gyntaf: eiddilwch. Yn ymyl anferthedd anferth Duw eiddil ydym. Gwelodd Moelwyn hefyd ein mawredd; daw hwn yn sgil ein perthynas â Duw. Er mor eiddil ydym, plant i Dduw ydym; fe’n cynhelir gan ei anferthedd. Deisyf y weddi am drugaredd Duw: O! clyw fy llef a thrugarha.... Oddi mewn i’r O! mae’r drwg a wnaethom, y daioni nas gwnaethom, y beiau bwriadol a gyflawnwyd gennym, a’r niwed a’r dolur a achoswyd gan ein hymddygiad. Trugaredd yw agwedd dosturiol, faddeugar Duw tuag atom. Nid ein collfarnu na’n cosbi a wna Duw, yn hytrach estyn amdanom mewn tosturi, a chydio ynom mewn trugaredd. Nid oes pall ar y trugaredd hwn: Er iti faddau beiau rifedi’r tywod mân, Gwn fod dy hen drugaredd lawn cymaint ag o’r blaen... (Morgan Rhys; 1705?-79) ...a dod i mi dy bethau da. Parodrwydd a phenderfyniad i faddau i eraill y drwg a wnaethant, y daioni nas gwnaethant, y beiau bwriadol a gyflawnwyd ganddynt, a’r niwed a’r dolur a achoswyd gan eu hymddygiad. Ofer pob peth arall heb hyn.
Nid ceisio’r wyf anrhydedd byd, nid gofyn wnaf am gyfoeth drud; O! llwydda f’enaid, trugarha, a dod i mi dy bethau da. Anodd canu’r pennill hwn a bod yn gwbl onest! Mae diogelu ein cyflwr ysbrydol llawn mor bwysig a sicrhau llwyddiant materol: Pa elw a gaiff dyn os ennill yr holl fyd a fforffedu ei fywyd? (Mathew 16:26) Mae ‘anrhydedd byd’ a ‘(ch)yfoeth drud’, y naill fel y llall, yn rhan o’r fendith a gawn gan Dduw, ond mae iddynt le priodol mewn bywyd, a rhaid eu cadw yn eu lle. Ofer pob cyfoeth os bydd yr enaid yn dlawd. Truenus pob anrhydedd heb fendith Duw. O! llwydda f’enaid yw ein gweddi ninnau; amod llwyddiant enaid yw derbyn y pethau da sydd gan Dduw i’w rhoddi inni. Erys yr angen am drugaredd Duw arnom, gan mor hawdd a chyson yr anghofiwn mai ofer anrhydedd byd a (ch)yfoeth drud heb (b)ethau da ein Duw.
Fe all mai’r storom fawr ei grym a ddaw â’r pethau gorau im; fe all mai drygau’r byd a wna i’m henaid geisio’r pethau da. Wedi sylweddoli mor werthfawr dy bethau da, haws talu’r pris amdanynt! Aberth diwerth sy’n anodd. Ni ystyrir unrhyw aberth yn ormod pa bod y wobr yn deilwng. Wrth geisio ein hargyhoeddi fod gwerth aberthu anrhydedd a chyfoeth er mwyn cael a chadw gafael ar y (p)ethau da, nid yw Moelwyn am ddweud bod stormydd yn angenrheidiol ond, meddai, Fe all mai’r storom fawr ei grym.... Os stormydd yw’r pris amdanynt, mynna Moelwyn ei fod yn barod i dalu’r pris. Daw'r pethau da yn rhwydd iawn i ni heddiw; hwylustod addoli ac addoldai, amlder cyfleusterau a chyfryngau o bob math. Mae ‘moddion gras’ o fewn cyrraedd pawb ohonom, ond gwyliwn rhag i hynny ein dallu i werth y gras. Isel y pris am y (p)ethau da heddiw; tueddwn, efallai, colli golwg ar eu gwerth.
Ffynhonnell pob daioni sy, O! dwg fi’n agos atat Ti. Rho imi galon a barha o hyd i garu’r pethau da. Uchafbwynt yr emyn! Yng Nghaneuon Ffydd, a dwg fi’n agos atat Ti a geir. Mae byd o wahaniaeth rhwng a dwg fi’n agos atat Ti a O! dwg fi’n agos atat Ti! Nid gofyn am y ‘pethau’ a wna’r gweddïwr bellach ond gofyn am gwmni rhoddwr y pethau! Er cystal y pethau da, bychan bach ydynt o’i gymharu â’r Peth: Duw Cariad Yw. Achos pob ffydd, deunydd pob gobaith, hanfod pob cariad. Ar ddiwedd ei emyn gofyn Moelwyn am Dduw ei hun. Ffrwyth caru’r pethau da yw dod yn agos at Dduw ei Hun. Caru Duw sydd yn arwain pobl at y pethau da, a’r pethau da sydd yn arwain pobl at Gariad Duw.