Wrth ddarllen papur newydd, gwrando ar y radio, neu wylio'r teledu cawn ein bombardio bob dydd; pob awr o bob dydd; o un pen y flwyddyn i'r llall gan fileindra pobl - ac yn raddol fe ddown i arfer â newyddion drwg, gan dderbyn deunydd tywyll ein byw a'n bod.
Ond, weithiau mae rhywbeth eithafol yn digwydd, ac yn ein deffro: Paris. Mae’r hyn a ddigwyddodd ym Mharis neithiwr wedi difrifoli pawb ohonom.
Beth a ddywedwn felly? Chwilio am eiriau. . .ond does dim geiriau. Mae’r cyfan tu hwnt hollol i ffiniau ein deall.
'Does dim geiriau na delweddau cymwys i gael inni, does dim atebion dynol i gael. Mae Paris yn gorfodi ni gyd i oedi, ystyried ac ymdawelu - tawelwch o ofid mawr.
Tawelwch o gydymdeimlad dwys - pobl wedi eu taflu'n ddirybudd a diseremoni i drobwll creulon gofid a galar.
Tawelwch o ddicter mawr tuag at y bobl a gyflawnodd y fath erchylltra; a thawelwch o ddychryn difrifol.
Ein gweddi, dros holl bobl Paris, yw iddynt ddarganfod gyda'i gilydd nerth i barhau.
Ein gweddi drosom ein hunain - er inni weld o ddydd i ddydd y drwg yn dirmygu ac yn melltithio ac yn sathru pob daioni dan draed, y gallwn dal ati i ddal ati i gredu na all holl dywyllwch byd, byth ddileu goleuni Duw.