Testun y dysgu a’r trafod yn ‘Bethania’ eleni yw Llyfr Josua - un o lyfrau anoddaf y Beibl ydyw; llyfr yn drwm o ryfela, lladd a dinistr.
Josua 24:14-28
Uchafbwynt crefydd Israel oedd y cyfamod a wnaeth yr Arglwydd â’r genedl ar Fynydd Sinai. Trwyddo daeth Jehofa’n Dduw i’r Israeliaid a hwythau’n bobl iddo ef.
Gweithred olaf Josua oedd galw ar y llwythau i adnewyddu’r cytundeb pwysig hwn rhyngddynt hwy â’r Arglwydd. Felly Josua a wnaeth gyfamod a’r bobl y dwthwn hwnnw, ac a osododd iddynt ddeddfau a barnedigaethau yn Sichem (adnod 25) Eisoes y mae Josua wedi apelio ar Israel i ddewis rhwng yr Arglwydd a’r duwiau estron. Dewiswch i chwi heddiw pa un a wasanaethoch (adnod 15).
Ar sail y dewis hwn yr adnewyddir y cyfamod ac y rhoddir i Israel gyfle arall i ymgysegru i wasanaeth y Duw a’i harweiniodd o’r Aifft i Ganaan. Y mae’r dewis sy’n wynebu Israel nid yn unig yn fater o bwys ond hefyd yn fater o frys. Y mae’n rhaid iddo gael ei wneud heddiw. Y mae’r pwyslais ar y presennol, oherwydd dyma’r unig amser sy’n berthnasol i’r sawl sy’n dewis. Nid oes gan yr un ohonom y gallu i newid doe na threfnu yfory, ond medrwn ddewis rhwng gwneud rhywbeth a pheidio â’i wneud heddiw. Nid gan ein hamgylchiadau y mae’r gair olaf. Y mae gennyn ni oll y rhyddid i ddewis rhwng un ffordd o fyw ac un arall.
Er mwy cynorthwyo Israel i ddod i benderfyniad a gwneud y dewis cywir, y mae Josua yn rhoi arweiniad pendant trwy fynegi’’n eglur ei safbwynt ei hun. Ond myfi, mi a’m tylwyth a wasanaethwn yr Arglwydd (adnod 15). Crefydd bersonol yw crefydd Josua. Y mae ef wedi gwneud ei ddewis ac y mae’n barod i gadw ato. Y mae ei ddylanwad yn amlwg ar ei deulu, ac nid oes lle i amau iddo gael yr un dylanwad ar Israel. Na ato Duw i ni adael yr Arglwydd i wasanaethu duwiau dieithr oedd ymateb parod y gynulleidfa (adnod 16)
Y mae esiampl arweinydd cenedlaethol neu riant/cyfaill/cymar mewn materion crefyddol, fel ym mhob dim arall, yn gymorth i eraill pan ddaw’r amser i ddewis. Dylem ninnau fel Josua fod yn ddigon agored ein meddwl i gyflwyno dwy ochr i ddadl, ac ar yr un pryd fynegi’n bendant ein dewisiad ni ein hunain. Nid gwthio’i syniad a’i wneud yn orchymyn a wnaeth Josua, ond yn hytrach ymresymu’n deg a doeth, a chynnig ei benderfyniad ef ei hun yn esiampl i’r genedl.