Dros y Sul, ein braint fel eglwys fydd cael gwrando cenadwri a derbyn arweiniad gan y Parchedig Beti-Wyn James (Caerfyrddin). Gwyddom y cawn ganddi bregethu meddylgar a phregethau buddiol a bendithlawn.
Yn ôl ein harfer, bydd yr Oedfa Foreol am 10:30. Cynhelir yr Ysgol Sul. Parhawn i barchu gorchymyn Iesu, Portha fy ŵyn, a’n llafur yn ddiarbed i hyfforddi ein plant a phobl ifanc.
Bydd yr Oedfa Hwyrol am 18:00. Gweddïwn am wenau Duw ar Oedfaon y Sul.
Nos Lun (24/2; 19:00-20:30) PIMS.
Nos Fawrth (25/2; 19:30-20:30): ‘Bethania’. Echel ein trafodaeth eleni yw ‘Josua’. Darperir nodiadau ‘Bethania’ rhag blaen ar y wefan hon bore dydd Llun
Bore Gwener (28/2; 10:00): ‘Llynyddwch’. Paned a thrafodaeth wrth ymyl llyn llonydd y Rhath. Cawn gyfle i drafod Llythyr Paul at Gristnogion Philipi.