Dewch â chroeso mawr i’r Oedfa Foreol (10:30). Sgwrs i’r plant a phlantos; ‘Fe welai i gyda fy llygaid bach i …’ ac Ysgol Sul. Bydd Owain yn parhau â’r gyfres o bregethau yn seiliedig ar Lythyr Paul at y Rhufeiniaid. Dyma destun ein sylw y tro hwn: Ac ni a wyddom fod pob peth yn cydweithio er daioni i’r rhai sydd yn caru Duw (8:28). Bydd Syncletica a Julian yn estyn cymorth i’n Gweinidog wrth geisio mynd i’r afael â’r adnod fawr hon.
Liw nos (Oedfa Hwyrol, 18:00) dychwelwn at y Rhufeiniaid. Datganiad oedd gan Paul ar ein cyfer yn yr Oedfa Foreol. Nos Sul, cwestiwn: Pwy a adnabu feddwl Duw? (11:33-36). Boed bendith.
Bydd y gymdeithas yn parhau yn Koinônia: swper blasus a sgwrs ddifyr mewn bwyty Eidalaidd cyfagos.
Cymdeithas Ddiwylliannol Eglwys Minny Street, (18/2; 19:30 yn y Festri): Hawl i Holi am elusennau Oasis, Masnach Deg, Te i’r Digartref, y Banc Bwyd a Huggard yng nghwmni Dianne Bartholomew, Hefin Jones, Alun Treharne, John Wilkins a Marged Williams.