Testun y dysgu a’r trafod yn ‘Bethania’ eleni yw Llyfr Josua - un o lyfrau anoddaf y Beibl ydyw; llyfr yn drwm o ryfela, lladd a dinistr.
Josua 24:1-13
Yn y traddodiad Cristnogol cynnar disgrifir Esau, mab Isaac a Rebeca fel gŵr halogedig … a werthodd am bryd o fwyd ei freintiau fel mab hynaf (Hebreaid 12:16). Cyfeiriad yw hwn at y stori adnabyddus yn Genesis 25:29-34 lle y daw Esau adref ar lwgu ar ôl diwrnod called o waith, a gwerthu ei enedigaeth-fraint i’w frawd am bowlenaid o gawl. O’r dydd hwnnw, Jacob fyddai’n etifeddu’r addewidion a wnaeth Duw i’r Tadau, tra cyfrifir Esau yn ddyn halogedig a diegwyddor na welai unrhyw werth ym mreintiau’r cyntaf-anedig.
O gofio hyn, ni synnem pe bai Jacob yn byw mewn heulwen barhaus ac Esau yn diflannu i’r tywyllwch wedi ei lwyr anwybyddu gan Dduw. Ond, fel y mae Josua’n atgoffa’r Israeliaid, nid dyna ddigwyddodd. I Esau rhoddodd yr Arglwydd, fynydd Seir i’w etifeddu; ond Jacob a’i feibion a aethant i waered i’r Aifft (adnod 4). Cafodd Esau ddarn ffrwythlon o dir yn ymestyn o’r Môr Coch - sef gwlad Edom yng nghysgod Mynydd Seir. Ymsefydlodd ef a’i blant yno a thyfu’n genedl gref a llwyddiannus.
Ond stori wahanol oedd stori Jacob. Er mai arno ef y dibynna dyfodol y genedl - am mai ef oedd etifedd yr addewidion - nid ddaeth hawddfyd a ffyniant i’w ran. Bu’n rhaid iddo fynd i lawr o’r Aifft lle y dioddefodd ei blant bedwar can mlynedd o gaethiwed called cyn elwa o’r bendithion. Diau fod llawer ohonynt wedi dyfalu droeon pa faint gwell oedd Jacob o dderbyn yr enedigaeth-fraint os mai dyma’r canlyniadau i’w ddisgynyddion!
Yn ei bregeth olaf i’r llwythau y mae Josua yn cyfeirio at y tro rhyfedd hwn yn eu hanes. Ond yn lle pwysleisio’r anawsterau, y mae’n gofyn i’r Israeliaid ystyried y gwersi a ddysgasant. Ni fu’r caethiwed a’r crwydro’n golled i gyd o bell ffordd. Ynddynt magodd y genedl ddycnwch a dewrder. Daeth yn ymwybodol o gynllun Duw iddi a dysgu beth oedd ystyr ffydd ac ymddiriedaeth. Yn y diwedd, cyrhaeddodd yn ddiogel i wlad yr addewid.
Fel hanes Israel gynt, y mae bywyd y Cristion yn llawn treialon sy’n gallu creu amheuaeth a siomiant a phoen. Salwch, profedigaeth, tlodi, newid byd anorfod - pwy sydd heb brofi o leiaf un ohonynt, a phwy sydd heb ofyn ‘pam’?